Dinas Mexico
Oddi ar Wicipedia
Dinas Mexico (Sbaeneg: Ciudad de México yw prifddinas Mexico. Cyfeirir ati yn aml fel Mexico, D.F. (Distrito Federal). Hi yw dinas fwyaf Mexico, ac un o ddinasoedd mwyaf y byd, gyda phoblogaeth y ddinas ei hun yn 8,720,916 yn 2005. Roedd poblogaeth yr ardal fetropolitaidd yn 19,311,365 yr un flwyddyn.
Cyn i'r Sbaenwyr gyrraedd, yma yr oedd safle dinas Tenochtitlan. Yn 1519 cyrhaeddodd y Sbaenwyr dan Hernán Cortés, a chyn hir roeddynt wedi cipio grym yn y ddinas. Wedi i Mexico ennill ei hanibyniaeth oddi wrth Sbaen, daeth Dinas Mexico yn brifddinas y wlad.