Dinbych-y-Pysgod
Oddi ar Wicipedia
Dinbych-y-Pysgod Sir Benfro |
|
Mae Dinbych-y-Pysgod (Tenby yn Saesneg) yn dref glan-môr gaerog yn ne Sir Benfro, ar Fae Caerfyrddin. Mae'n bosibl fod y dref wedi'i sefydlu gan y Llychlynwyr. Tyfodd fel porthladd o gwmpas y castell, sydd bellach yn adfeilion. ac erbyn heddiw mae'n dref gwyliau glan-môr poblogaidd.
Mae atyniadau yn cynnwys 4km o draethau da, muriau hynafol y dref sy'n dyddio o'r 13eg ganrif ac yn cynnwys Porth y Pum Bwa, Eglwys Fair sy'n dyddio o'r 15fed ganrif, Tŷ'r Marsiandwr Tuduraidd (eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, amgueddfa'r dref â'i oriel, a rhan o Llwybr Arfordirol Sir Benfro. Mae cychod bach yn hwylio'n rheolaidd o harbwr Dinbych-y-Pysgod i Ynys Bŷr a'i mynachlog enwog. Gellir cyrraedd Ynys Catrin, yn y bae gyferbyn â'r dref, ar hyd sarn pan fo'r llanw'n isel.
[golygu] Enwogion
- Robert Recorde (tua 1510-1588), ysgolhaig o'r 16eg ganrif, a ddyfeisiodd yr arwydd mathemategol " = " (yr hafalnod).
- Augustus John (1878-1961), arlunydd
- Gwen John (1876-1939), arlunydd a chwaer hŷn Augustus John
- Kenneth Griffith (1921-2006), actor a chyfarwyddwr
[golygu] Economi
Twristiaeth yw sail yr economi lleol. Mae'r dref yn denu miloedd o ymwelwyr o bob cwrdd o wledydd Prydain a thu hwnt yn yr haf.
|
|
---|---|
Abercastell | Abercych | Aberdaugleddau | Abereiddi | Abergwaun | Amroth | Angle | Arberth | Boncath | Brynberian | Caeriw | Camros | Casblaidd | Casnewydd Bach | Castell Gwalchmai | Castellmartin | Cilgerran | Cilgeti | Clunderwen | Crymych | Cwm yr Eglwys | Dale | Dinbych-y-Pysgod | Doc Penfro | East Williamston | Eglwyswrw | Hwlffordd | Llanbedr Efelffre | Llandudoch | Llandyfái | Llandysilio | Llanddewi Efelffre | Llanhuadain | Llanfyrnach | Llanwnda | Maenclochog | Maenorbŷr | Manordeifi | Marloes | Mathri | Mynachlog-ddu | Nanhyfer | Neyland | Penfro | Pontfaen | Rosebush | Rudbaxton | Saundersfoot | Solfach | Stepaside | Trefdraeth | Trefin | Treletert | Tyddewi | Wdig |
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.