Dip
Oddi ar Wicipedia
Yn llên gwerin Catalonia, ci du, maleisus, blewog, a anfonir i'r byd gan y Diafol ac sy'n ysu gwaed pobl yw'r Dip. Fel yn achos ffigurau eraill a gysylltir â diafoliaid ym mytholeg Catalonia, mae'r Dip yn gloff mewn un goes. Ceir llun ohono ar escutcheon tref Pratdip, yng Nghatalonia.
[golygu] Dolenni allanol
[golygu] Gweler hefyd
- Cŵn Annwn
- Gwyllgi