Diwan
Oddi ar Wicipedia
Mudiad ysgolion Llydaweg yn Llydaw yw Diwan. Gweithreda y tu allan i gyfundrefn addysgol ganolog Ffrainc am fod Diwan yn dysgu'n gyfan gwbl trwy gyfrwng y Llydaweg.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Crëwyd yr ysgol Diwan gyntaf yn Lambaol-Gwitalmeze (Ffrangeg Lampaul-Ploudalmézeau) ger Brest, yn 1977, o ganlyniad i'r galw am addysg trwy gyfrwng yr iaith. Mae'r ysgolion yn trochi'r plant yn yr iaith, yn debyg i ysgolion penodedig Cymraeg, ac roedd 2,200 o ddisgyblion yn mynd i ysgolion Diwan ar draws Llydaw yn 2005. Agorodd yr ysgol Diwan gyntaf ym Mharis ym mis Medi 2004.
[golygu] Erbyn Diwan
Mae pobl yn agos at llywodraeth Ffrainc yn siarad yn amal yn erbyn ysgolion Diwan, fel yr aelod seneddol ffrancwr sosialaidd (hen drotskydd) Jean-Luc Mélenchon neu yr awdures ffrangeg Françoise Morvan.
[golygu] 30 mlynedd dros yr iaith
Bydd Diwan yn cael ei 30 penblwydd yn 2008 yn Karaez, yn nghanol Llydaw.
[golygu] Dolenni allanol
- Safle We Diwan (Llydaweg a Ffrangeg)
- (Saesneg) Learning the real local lingo can be child's play, Daily Telegraph, 14 June 2006