Dyn
Oddi ar Wicipedia

Bod dynol gwrywaidd aeddfed yw dyn (mewn cyferbyniaeth â dynes).
Mae llai na hanner o'r bobl yng Nghymru yn ddynion. Mae tua hanner yn wrywod, ond mai nifer ohonynt yn fechgyn.
[golygu] Ystyron yn y Gymraeg
Yn wreiddiol prif ystyr y gair dyn yn Gymraeg oedd "person" neu "fod dynol". Yn ogystal roedd yn air a ddefnyddid yn aml gan y cywyddwyr i gyfeirio at ferched, ac yn enwedig at ferched ifainc (ceir nifer o enghreifftiau o ddisgrifiadau fel dyn deg yng ngwaith beirdd fel Dafydd ap Gwilym, er enghraifft, sy'n golygu "merch deg"). Gallai olygu "gwas" hefyd. Mewn cyferbyniaeth, gŵr oedd y gair arferol ar gyfer dyn mewn oed (gyda "rhyfelwr" ymhlyg yn yr ystyr) a mab am ddyn ifanc (unwaith eto gyda "rhyfelwr" ymhlyg yn yr ystyr). Dim ond yn raddol y daeth y gair i olygu 'dyn' yn yr ystyr sy'n gyfarwydd heddiw.[1]
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, cyf. 1, tud. 1140.
[golygu] Gweler hefyd
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.