Edmund Hillary
Oddi ar Wicipedia
Mynyddwr a fforiwr o Seland Newydd oedd Syr Edmund Percival Hillary (20 Gorffennaf 1919 - 11 Ionawr 2008). Ar 29 Mai, 1953, ef a Tenzing Norgay oedd y cyntaf i gyrraedd copa Sagarmatha (Mynydd Everest), y tro cynta i'r copa uchaf yn y byd cael ei esgyn.
Am chwe mis rhwng 1952 a 1953 ymgartrefodd y tîm yng Ngwesty Pen-y-Gwryd, yn Eryri i ymarfer ac i brofi yr offer.
Bu farw Syr Edmund yn Ysbyty Auckland ar 11 Ionawr 2008. Bu'n dioddef o pneumonia ers peth amser. Gan ei fod yn cael ei ystyried yn arwr cenedlaethol yn Seland Newydd, gorchymynodd y llywodraeth ostwng baner y wlad ar adeiladau cyhoeddus er parch iddo.[1]
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Yahoo/Reuters 11.01.08.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.