Eglwys Gadeiriol Nidaros
Oddi ar Wicipedia
Un o eglwysi pwysicaf Llychlyn yw Eglwys Gadeiriol Nidaros (Norwyeg Nidarosdomen). Wedi'i lleoli yn Trondheim, trydedd ddinas Norwy, hon oedd eglwys gadeiriol archesgobion Norwy hyd y Diwygiad Protestannaidd, ac wedyn eglwys gadeiriol esgobion Lutheraidd y ddinas. Mae arddull yr eglwys yn Romanesg a Gothig. Hon yw eglwys gadeiriol ganoloesol fwyaf gogleddol y byd a'r eglwys gadeiriol fwyaf yn Llychlyn. Daw ei henw o hen enw dinas Trondheim, Nidaros (am ei bod ar lannau Afon Nidelva).
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
[golygu] Capel Olaf Sant
Yn ôl traddodiad mae'r brif allor yn sefyll ar y llecyn lle claddwyd Sant Olaf (c.995-29 Gorffennaf, 1030), sant cenedlaethol Norwy, ar ôl iddo gael ei ladd ym mrwydr Stiklestad. Canoneiddiwyd Olaf yn 1031 ac yn yr un flwyddyn codwyd capel pren bychan ar safle ei fedd.
[golygu] Yr adeiladu cynnar
Dechreuodd gwaith ar yr adeilad presennol yn 1070, pan godwyd eglwys garreg ar safle'r hen gapel ar orchymyn Olaf Fwyn, nai Sant Olaf. Roedd y gwaith wedi'i gwblhau erbyn 1090.
Yn 1151 cafodd Nidarosdomen ei wneud yn gadeirlan yr esgobaeth. Ymdyrrai pererinion o bob cwr o Norwy a'r tu hwnt. Cychwynwyd ar gyfnod o waith adeiladu uchelgeisiol gan yr archesgobion cyntaf, Jon ac Øyrtin. Ymddengys fod nifer o'r crefftwyr a huriwyd wedi dod o Loegr. Ychwanegwyd nifer o gerfluniau yn yr arddull Romanesg Eingl-Normanaidd. Yn 1183 dychwelodd Øyrtin o gyfnod o alltudiaeth yn Lloegr ac ychwanegodd gafell yn yr arddull Gothig cynnar (a orffenwyd rhwng 1210 a 1220).
Yn y 1240au, ychwanegwyd cangell a gyda hynny roedd yr adeiladwaith newydd wedi disodli gwaith Olaf Fwyn yn llwyr i greu'r eglwys gadeiriol fwyaf yn Norwy. Roedd y gwaith wedi'i gwblhau erbyn tua 1300 - 1320. Ar y pryd fe'i hystyrid yr eglwys gadeiriol fwyaf ysblennydd yng ngwledydd Llychlyn.
[golygu] Tanau dinistriol
Fodd bynnag, cafodd ei hesgeuluso o ddiwedd y 15fed ganrif ymlaen. Dioddefodd ddifrod difrifol mewn tanau. Yn 1328 collwyd y to a phopeth o bren. Creodd gryn difrod gan ddau dân arall yn 1432 a 1451. Erbyn hynny roedd yr eglwys yn dlawd ac yn methu fforddio atgyweirio'r adeilad. Yn 1531 dioddefodd dinas Trondheim dân anferth a ddinistriodd ran helaeth o'r hen ddinas; llosgwyd y gadeirlan i gyd bron, ac eithrio'r gangell, gan adael corff yr eglwys yn adfail. Yn 1708 cafwyd tân mawr arall a'i llosgodd i lawr yn llwyr ac eithrio'r muriau cerrig. Trawyd yr egwlys gan fellt ym 1719, dan ddioddef difrod tân sylweddol unwaith eto.
[golygu] Atgyweirio
Erbyn dechrau'r 19eg ganrif roedd hi mewn cyflwr drwg. Dechreuwyd ei hatgyweirio yn 1869, i ddechrau o dan arweinyddiaeth y pensaer Heinrich Ernst Schirmer, wedyn o dan Christian Christie. Rhoddwyd y cerflun newydd olaf yn ei le ar y wyneb gorllewinol yn 1983. Cwblhawyd y gwaith yn swyddogol yn 2001. Erbyn heddiw mae hi'n addurn pennaf dinas Trondheim, ond mae gwaith cynnal yr eglwys yn parháu yn gyson.
[golygu] Y cysylltiad brenhinol
Coronid brenhinoedd Norwy yn yr eglwys o 1400 hyd y Diwygiad Protestannaidd ag uno llawnach Norwy â Denmarc. Ailgychwynwyd yr arfer ar ôl annibyniaeth Norwy ym 1814. Mae saith o frenhinoedd wedi cael eu coroni yn yr eglwys a deg wedi'u claddu yno. Cynhaliwyd y coroni olaf ym 1906. Ers hynny, mae brenhinoedd Norwy wedi derbyn bendith yr Eglwys yno. Cedwir tlysau brenhinol Norwy yn y gadeirlan.
[golygu] Amgueddfa'r gadeirlan
Yn yr amgueddfa yn y crypt ceir rhai o'r enghraifftiau gorau a chynharaf o gerfluniau ar garreg yn Norwy a nifer o slabiau cerfiedig gydag arysgrifau Lladin a Norseg. Dyma'r casgliad pwysicaf o'i fath yn y wlad.