Esgobaeth Bangor
Oddi ar Wicipedia
Esgobaeth Bangor yw'r hynaf o chwech esgobaeth Anglicanaidd Cymru. Gorwedd tiriogaeth yr esgobaeth yng ngogledd-orllewin y wlad, gan ymestyn o Ynys Môn i ran o ogledd Powys ; mae'n cyfateb yn fras i diriogaeth teyrnas Gwynedd yn yr Oesoedd Canol. Canolfan yr esgobaeth yw cadeirlan Bangor, sedd esgob Bangor, lle ceir Eglwys Gadeiriol Bangor.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Sefydlwyd clas ac eglwys ar safle Bangor heddiw gan Deiniol Sant a'i ddilynwyr tua'r flwyddyn 525. Codwyd clawdd gwiail (bangor) o amgylch y clas, a hynny sy'n cyfrif am enw'r ddinas heddiw. Yn ôl yr Annales Cambriae, yn y flwyddyn 546 gwahoddodd Maelgwn Gwynedd, brenin gogledd Cymru, Sant Deiniol i fod yn esgob ar ei diriogaeth, ac felly y creuwyd esgobaeth hynaf Cymru a gwledydd eraill Prydain. Olynywyd Deiniol gan ragor o seintiau fel Cybi a Seiriol ym Môn a Cadfan yn Nhywyn.
Gyda'i chadeirlan ym 'Mangor Fawr yn Arfon' (Bangor), chwareai'r esgobaeth a'i hesgobion ran bwysig yn hanes Gwynedd yn yr Oesoedd Canol. Daeth newidiadau gyda rheolaeth y Normaniaid ar Dyddewi a chynydd dylanwad Eglwys Rufain. Yn 1143 collodd Bangor ran helaeth ei thiriogaeth yng ngogledd-ddwyrain Cymru pan adferwyd Esgobaeth Llanelwy ac ehangu ei thiriogaeth. Ond arosodd dwy ynys o dir dan reolaeth Bangor, sef cantref Dyffryn Clwyd yn y Berfeddwlad a chantref Arwystli yn nheyrnas Powys.
Yn ddiweddarach collwyd Dyffryn Clwyd i esgobaeth Llanelwy, ond cadwodd Bangor Arwystli ac ychwanegwyd Cyfeiliog a Mawddwy fel bod yr esgobaeth yn ffurfio uned gyfan unwaith eto, ond heb y gogledd-ddwyrain.
[golygu] Rhaniadau
[golygu] Archddiaconiaeth Bangor
Mae archddiaconiaeth Bangor yn cynnwys archddiaconiaethau canoloesol Bangor a Môn. Mae'n ymrannu'n saith diaconiaeth :
- Diaconiaeth Arfon
- Diaconiaeth Arllechwedd
- Diaconiaeth Ogwen (Maenor Bangor yr Oesoedd Canol)
- Diaconiaeth Llifon a Thalybolion (Ynys Môn)
- Diaconiaeth Malltraeth (Ynys Môn)
- Diaconiaeth Tindaethwy a Menai (Ynys Môn)
- Diaconiaeth Twrcelyn (Ynys Môn)
[golygu] Archddiaconiaeth Meirionnydd
Mae tiriogaeth archddiaconiaeth Meirionnydd yn cyfateb yn fras i'r hen Sir Feirionnydd gyda Llŷn, Eifionydd ac Arwystli (Powys). Mae'n ymrannu'n bum diaconiaeth :
- Diaconiaeth Ardudwy
- Diaconiaeth Arwystli
- Diaconiaeth Cyfeiliog a Mawddwy
- Diaconiaeth Llŷn ac Eifionydd
- Diaconiaeth Ystumaner
[golygu] Dolenni allanol
- Gwefan swyddogol Esgobaeth Bangor (dwyieithog)
[golygu] Gweler hefyd
- Esgobaeth
- Esgob Bangor
Crefydd | Cristnogaeth | Esgobaethau Anglicanaidd Cymru | ||||||||||||
|