Bangor
Oddi ar Wicipedia
Bangor Gwynedd |
|
- Mae'r erthygl yma'n cyfeirio at Fangor, Gwynedd, gogledd Cymru. Gweler Bangor (gwahaniaethu) am leoedd eraill a elwir yn Fangor.
Mae Bangor yn ddinas fechan yng Ngwynedd, gogledd-orllewin Cymru. Mae ganddi boblogaeth o dua 15,000. Mae Prifysgol Bangor ac Eglwys Gadeiriol Bangor yn y ddinas. Bangor yw canolfan Esgobaeth Bangor a sedd Esgob Bangor.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Daearyddiaeth
Mae rhannau hynaf Bangor yn gorwedd yn nyffryn Afon Adda, sy'n wastadedd cyfyng rhwng dwy res o fryniau a red o'r gorllewin i'r dwyrain. Mae'r dyffryn yn agored i'r môr yn y dwyrain ar y bae bychan mewn braich agored o'r Afon Menai. Uwchlaw'r eglwys gadeiriol mae'r Stryd Fawr hir, gul, tra bod prif adeiladau'r coleg yn domineiddio'r bryn i'r gogledd. I'r de o'r ddinas mae bryn coediog syrth Mynydd Bangor yn codi i 300 troedfedd. I'r gorllewin rhed Ffordd Gaernarfon allan o'r ddinas dan y bont reilffordd ar hyd dyffryn Afon Adda; yma ceir Ysbyty Gwynedd, nifer o stadau tai a datblygiadau siopio newydd yn cynnwys archfarchnadoedd mawr.
Rhwng Bangor ac Ynys Môn, mae dwy bont: Pont Y Borth a Phont Britannia. Mae Pont Britannia yn fawr, gyda dau lefel, un gyda'r ffordd ceir, arall gyda'r rheilffordd. Ond mae Pont y Borth yn gul, a does dim caniatâd pasio arno, ac eithrio beic gan feic.
[golygu] Hanes
Yn ôl traddodiad sefydlodd Deiniol Sant fynachlog (clas) ar lannau Afon Adda yn y 6ed ganrif. Mae enw'r dref yn dod o'r gair bangor, sef "clawdd plethiedig" neu'r tir a amgeir ganddo (llan). Cafodd Deiniol ei gysegru'n esgob cyntaf Bangor gan Dyfrig Sant (Dubricius).
Ymddengys fod y fynachlog a'r hen eglwys gadeiriol wedi parhau i sefyll hyd 1071 pan y'i llosgwyd gan y Normaniaid. Ailadeiladwyd yr eglwys gadeiriol tua 1102 dan nawdd Gruffudd ap Cynan, Brenin Gwynedd, ond iddi gael ei dinistrio unwaith yn rhagor gan luoedd y brenin John o Loegr yn 1210 pan ymosododd ar Wynedd. Claddwyd Gruffudd ap Cynan a'i ŵyr Owain Gwynedd yn y gadeirlan. Fe'i adeiladwyd o'r newydd bron yn y 13eg ganrif.
Ymwelodd Gerallt Gymro â Bangor yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.
Yn y 13eg ganrif, sefydlwyd mynachlog fymryn i'r gogledd o'r hen dref gan Urdd y Dominiciaid. Ym 1557, sefydlwyd ysgol rad, sef Ysgol Friars ar y safle hwnnw. Mae'r ysgol yn parhau i fodoli, er wedi symud safle sawl gwaith.
Yn raddol tyfodd tref fechan o gwmpas yr eglwys gadeiriol ond nid oedd yn llawer mwy na phentref tan ddiwedd y 18fed ganrif pan agorwyd chwareli llechi Penrhyn ac adeiladwyd porthfa newydd yn Abercegin, fymryn i'r gogledd-ddwyrain o'r ddinas. Gydag agoriad ffordd newydd Thomas Telford (yr A5 heddiw) ac wedyn Pont y Borth yn 1826 daeth Bangor yn ganolfan cludiant o bwys a datblygodd yn gyflym. Cyrhaeddodd y rheilffordd yn 1848. Yn 1883 rhoddwyd siartr bwrdeistref i'r ddinas ac yn 1885 adnabuwyd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru â siartr brifysgol.
Gwelodd Bangor ddatblygiadau mawr yn yr ugeinfed ganrif gyda nifer o dai yn cael eu codi ar ymyl y ddinas, yn arbennig ar y bryn lle saif y coleg (Bangor Uchaf) ac ar gyrion y dref ym Maesgeirchen.
[golygu] Y Pier
Mae gan Fangor y pier ail hiraf yng Nghymru (y nawfed hiraf yng ngwledydd Prydain), sy'n ymestyn 1,500 troedfedd (472 medr) i'r Afon Menai. Fe'i lleolir tua hanner milltir i'r gogledd-ddwyrain o'r ddinas ei hun, yn ymyl Y Garth, sy'n rhoi ei enw iddo'n swyddogol er mai fel Pier Bangor y mae'n cael ei adnabod gan bawb bron. Bu bron iddo gael ei ddymchwel yn 1974 oherwydd ei gyflwr ar y pryd. Ond gwrthwynebwyd y cynllun gan bobl leol ac erbyn hyn mae'r pier wedi cael ei drwsio (rhwng 1982 a 1988) ac yn adeilad Gradd 2.
[golygu] Porth Penrhyn
Ar ochr ddwyreiniol y ddinas ar lan Afon Menai mae porthladd bychan Porth Penrhyn, oedd o bwysigrwydd mawr yn y 19eg ganrif fel porthladd i allforio llechi o Chwarel y Penrhyn.
[golygu] Ysgolion
- Ysgol Gynradd y Garnedd
- Ysgol Gynradd y Faenol
- Ysgol Gynradd Glanadda
- Ysgol Gynradd Hirael
- Ysgol Gynradd Cae Top
- Ysgol Uwchradd Tryfan
- Ysgol Uwchradd Friars
- Ysgol Breifat Hillgrove
- Ysgol Breifat St. Gerrards
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor ym 1890, 1902, 1915, 1931 a 1971. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1890
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1902
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1915
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1931
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1971
[golygu] Cludiant
Mae gan Bangor orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru sy'n ei chysylltu â Chaergybi a Chaer. Yn ogystal, Bangor yw prif echel rhwydwaith bysus y rhan yma o Wynedd, gyda gwasanaethau niferus i bentrefi lleol a lleoedd eraill. Mae gwasanaeth cyflym y Traws Cambria yn cysylltu Bangor a Chaerdydd trwy Aberystwyth.
[golygu] Gefeilldref
[golygu] Llefydd i aros
[golygu] Cysylltiadau allanol
- Clwb Pêl-droed Dinas Bangor
- (Saesneg) Citizen's choice Gwefan answyddogol Clwb Pêl-droed Dinas Bangor
- Prifysgol Bangor
[golygu] Gweler hefyd
- Castell Penrhyn
- Clwb Pêl-Droed Dinas Bangor
- Deiniol
- Eglwys Gadeiriol Bangor
- Esgobaeth Bangor
- Esgob Bangor
- Prifysgol Bangor
|
|
---|---|
Abertawe | Bangor | Caerdydd | Casnewydd | Tyddewi |
Crefydd | Cristnogaeth | Esgobaethau Anglicanaidd Cymru | ||||||||||||
|