Oddi ar Wicipedia
Gwefan rhwydweithio cymdeithasol yw Facebook, yn debyg i Bebo a MySpace. Yn anffurifol, defnyddir yr enw Gweplyfr arno yn y Gymraeg.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Pan lawnsiwyd Facebook yn 2004 gan Mark Zuckerberg, roedd aelodaeth wedi ei gyfyngu i fyfyrwyr Prifysgol Harvard, ac yna fe enhangwyd i sawl prifysgol yn yr Unol Daleithiau. Yn raddol enhangwyd aelodaeth i unrhywun oedd â chyfeiriad e-bost sefydliad addysgol (e.e. .edu, .ac.uk, ayyb) ar draws y byd, nes yn 2006 pan agorwyd y wefan i unrhyw berson.
[golygu] Achos llys
Yn 2007 aed a Mark Zuckerberg i'r llys gan gwmni ConnectU.com gan honni ei fod wedi dwyn eu syniad nhw am y wefan, ac wedi oedi datblygiad eu gwefan nhw'n fwriadol tra'n gweithio iddynt yn 2003[1]. Nid oes dyfarniad wedi bod i'r achos llys hyd yma.
[golygu] Nodweddion
- Rhaid cofrestru â Facebook cyn cael mynediad i'r wefan.
- Gallwch ddewis ymuno â rhwydweithiau sy'n seiliedig ar leoliad daearyddol (gwladwriaeth, gwlad neu ddinas), sefydliad addysg neu gyflogwr.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) Facebook site faces fraud claim.
[golygu] Dolenni
- (Saesneg) Gwefan Facebook