Fernão de Magalhães
Oddi ar Wicipedia
Fforiwr o Bortiwgal oedd Fernão de Magalhães (Sbaeneg: Fernando de Magallanes, Saesneg: Ferdinand Magellan) (Gwanwyn 1480–27 Ebrill, 1521). Bu iddo arwain y rhan gyntaf o'r fordaith gyntaf i gylchynnu'r byd yn llwyddiannus, ond fe fu farw yn y Pilipinas cyn cwblhau'r daith.
Arweiniodd Magellan sawl mordaith i India ac Affrica ar ran Portiwgal rhwng 1505 a 1516.
Yn y flwyddyn 1519, dan nawdd Sbaen y tro yms, cychwynodd gyda llynges fach o bum llong - ei faner-long Trinidad, y San Antonio, Concepcio, Victoria a'r Santiago - i geisio darganfod llwybr i ynysoedd y Molucca. Croesoedd y Cefnfor Tawel aac aeth trwy'r culfor a enwir ar ei ôl (Culfor Magellan). Yng ngwanwyn 1521 cyrhaeddodd yr Indies ond cafodd Magellan ei ladd yn y Pilipinas.
Y Victoria oedd yr unig un o'r 5 llong i ddychwelyd i Sbaen, gan gwblhau dan gapteiniaeth Juan Sebastián del Cano, y cylchyniad cyntaf o'r byd.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.