Ffynnon Llugwy
Oddi ar Wicipedia

Ffynnon Llugwy gyda Pen yr Helgi Du tu ôl.
Mae Ffynnon Llugwy yn lyn o tua 40 acer ym mynyddoedd y Carneddau yn Eryri. Saif tua 1786 troedfedd uwch lefel y môr, ac mae'r dyfnder mwyaf yn 146 troedfedd.
Defnyddir Ffynnon Llugwy fel cronfa ddŵr ar gyfer Bangor ac Ynys Môn, a chymerir dŵr hefyd o Afon Llugwy sy'n llifo o'r llyn. Caiff y dŵr yma ei drosglwyddo i Llyn Cowlyd. Mae Afon Llugwy yn llifo ymlaen trwy Capel Curig a Betws-y-coed i gyfarfod Afon Conwy.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Geraint Roberts The Lakes of Eryri (Gwasg Carreg Gwalch, 1985)