Frankfurt am Main
Oddi ar Wicipedia
Mae Frankfurt am Main yn ddinas yn yr Almaen. Frankfurt yw'r ddinas fwyaf yn nhalaith Hesse a'r bumed dinas yn yr Almaen o ran poblogaeth ar ôl Berlin, Hamburg, München a Cwlen, gyda poblogaeth o 661,877 yn Rhagfyr 2006.
Gelwir y ddinas yn Frankfurt am Main oherwydd ei lleoliad ar Afon Main ac i'w gwahaniaethu oddi wrth y Frankfurt arall, ar Afon Oder. Fel rheol pan gyfeirir at "Frankfurt", Frankfurt am Main a olygir. Frankurt yw'r drydedd canolfan ariannol yn Ewrop ar ôl Llundain a Paris, ac yn 2001 cyhoeddwyd mai Frankfurt oedd dinas gyfoethocaf Ewrop. Mae'r maes awyr ymhlith y prysuraf yn Ewrop.
Mae hanes y ddinas yn mynd yn ôl i sefydliadau Rhufeinig yn y ganrif gyntaf. O 855 hyd 1792, Frankfurt oedd dinas etholiadol yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Cafodd y ddinas ei bomio'n drwm yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a dinistriwyd y canol hanesyddol.
Treuliodd y Cymro Richard Davies (a fyddai nes ymlaen yn esgob Llanelwy ac wedyn Tyddewi) gyfnod o alltudiaeth yn y ddinas o 1555 hyd 1558 am ei grefydd.
Mae gan y ddinas nifer o dimau peldroed; yr enwocaf ohonynt yw Eintracht Frankfurt.
[golygu] Pobl enwog o Frankfurt am Main
- Johann Wolfgang von Goethe, awdur.
- Siarl Foel, ymerawdwr
- Anne Frank, enwog am ei dyddiadur adeg yr Ail Ryfel Byd