Cwlen
Oddi ar Wicipedia
Dinas bedwaredd fwyaf yr Almaen yw Cwlen (Almaeneg: Köln IPA: /kœln/, Ffrangeg a Saesneg: Cologne) ar ôl Berlin, Hambwrg a Munich, gyda tua 986 000 o drigolion. Mae wedi'i lleoli yn nhalaith Gogledd Rhein-Westfalen, ar lan Afon Rhein. Mae hi'n adnabyddus iawn am ei heglwys gadeiriol yn y dull Gothig.
[golygu] Santes Ursula
Roedd Ursula yn dywysgoges o deyrnas Dumnonia (Dyfnaint). Ar gais ei thad, hwyliodd am Lydaw at ei darpar-ŵr Cynan Meiriadog, gyda 11,000 o wyryfon fel gweinyddesau. Gyrrodd storm wyrthiol hwy yr holl fordd i draethau Gâl mewn diwrnod, a phenderfynodd Ursula fynd ar bererindod. Aeth i ddinas Rhufain, ac yna ymlaen i Gwlen, oedd dan warchae gan yr Hyniaid. Merthyrwyd y gwyryfon i gyd, a saethwyd Ursula ei hun yn farw gan arweinydd yr Hyniaid. Dywedir i hyn ddigwydd tua 383. Ym Masilica y Santes Ursula yng Nghwlen, ceir creiriau y dywedir eu bod yn weddillion Ursula a'r gwyryfon. Daeth Cwlen yn ganolfan pererindod o bwys mawr yn yr Oesoedd Canol gyda phobl yn tyrru yno o bob rhan o Ewrop.