Gŵr Pen y Bryn
Oddi ar Wicipedia
Gŵr Pen y Bryn: Deffroad Enaid Cyffredin. Stori o gyfnod y Rhyfel Degwm yw unig nofel y llenor amryddawn Edward Tegla Davies. Fe'i cyhoeddwyd gan Hughes a'i Fab yn Wrecsam, 1923.
Lleolir y nofel ym mhentref bach gwledig yng ngogledd-ddwyrain Cymru adeg y Rhyfel Degwm. Er bod iddi gefndir hanesyddol a chymdeithasol pwysig a difyr, stori am "ddeffroad enaid cyffredin", sef gŵr (meistr) fferm Pen-y-Bryn ydyw.
Ystyrir Gŵr Pen-y-Bryn yn glasur bach gan sawl beirniad; "un o nofelau mwyaf trawiadol ei gyfnod" yw barn Bobi Jones amdano (R.M. Jones, Llenyddiaeth Gymraeg 1902-1936, t. 430).
Edward Tegla Davies | |
---|---|
Ar Ddisberod | Y Doctor Bach | Y Foel Faen | Gŵr Pen y Bryn | Gyda'r Blynyddoedd | Gyda'r Glannau | Hen Ffrindiau | Yr Hen Gwpan Cymun | Hunangofiant Tomi | Y Llwybr Arian | Nedw | Rhyfedd o Fyd | Rhys Llwyd Y Lleuad | Stori Sam | Tir Y Dyneddon |