Gyda'r Glannau
Oddi ar Wicipedia
Nofel fer gan Edward Tegla Davies ("Tegla"), gyhoeddwyd yn y gyfres clawr meddal boblogaidd gan Llyfrau'r Dryw, Llandybïe, yn 1941.
Hunangofiant ffug gweinidog Wesleiaidd yw Gyda'r Glannau. Ei deitl llawn, yn null y cofiannau Cymraeg traddodiadol, yw
- GYDA'R GLANNAU / sef Atgofion / y Parchedig / WILLIAM CICERO-WILLIAMS / gyda nodiadau / gan / E. TEGLA DAVIES.
Fel yr awgryma ei enw, mae William Cicero-Williams yn hoff o draethu ar bob pwnc dan haul. Rhyw hunangofiant ffug am Tegla ei hun ydyw mewn gwirionedd, yn seiliedig ar ei brofiadau fel gweinidog Wesleiaidd yn symud o gylchdaith i gylchdaith o gwmpas trefi bach yng nghefn-gwlad Cymru.
Edward Tegla Davies | |
---|---|
Ar Ddisberod | Y Doctor Bach | Y Foel Faen | Gŵr Pen y Bryn | Gyda'r Blynyddoedd | Gyda'r Glannau | Hen Ffrindiau | Yr Hen Gwpan Cymun | Hunangofiant Tomi | Y Llwybr Arian | Nedw | Rhyfedd o Fyd | Rhys Llwyd Y Lleuad | Stori Sam | Tir Y Dyneddon |