Gŵyl y Faenol
Oddi ar Wicipedia
Mae Gŵyl y Faenol yn ŵyl gerddorol flynyddol a drefnir gan Bryn Terfel ac a gynhelir fel rheol ar Ŵyl Banc Awst ar Stad y Faenol ger Bangor, Gwynedd. Dechreuodd yr ŵyl yn 2000.
Fel rheol, mae'r ŵyl yn para dros y penwythnos, o ddydd Gwener i ddydd Llun. Yr uchafbwyntiau yw'r noson o gerddoriaeth opera ar y Sadwrn, sy'n llwyfan i gantorion o bob rhan o'r byd, y gyngerdd "pops" clasurol ar y Sul, a'r noson roc Cymraeg "Tân y Ddraig" ar nos Lun.
Yn 2006 daeth dros 35,000 o bobl i'r digwyddiad pedwar diwrnod, sy'n record.