Gaborone
Oddi ar Wicipedia
Gaborone (hen enw: Gaberones) yw prifddinas a dinas fwyaf Botswana, yn ne-orllewin Affrica. Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain y wlad yn agos iawn i'r ffin â thalaith Transvaal yng Ngweriniaeth De Affrica. Symudwyd y brifddinas i Gaborone o ddinas Mafeking yn 1965. Lleolir rhan o Brifysgol Botswana a Gwlad Swazi yno.
Mae'r ddinas yn gorwedd i'r dwyrain o anialwch mawr y Kalahari mewn ardal gymharol ffrwythlon. Ceir llyn mawr ar gyrion y ddinas. Mae rheilffordd yn cysylltu'r ddinas â gogledd-ddwyrain y wlad a dinas Bulawayo yn Zimbabwe, ac â Johannesburg a Pretoria i'r de dros y ffin yn Ne Affrica.