Wicipedia:Geirfa
Oddi ar Wicipedia
Mae'r dudalen yma yn eirfa o dermau a ddefnyddir ar Wicipedia. Am fwy o gymorth, gweler Wicipedia:Cymorth a Wicipedia:Cwestiynau poblogaidd.
DS: Er hwyluso croes-gyfeirio, rhoddir y term Saesneg cyfatebol mewn cromfachau ac yn fach ar ôl y term Cymraeg.
[golygu] A
- Archif (Archive)
- Is-dudalen i dudalen sgwrs yw archif. Symudir y sgyrsiau hynaf ar y dudalen sgwrs i'r archif er mwyn lleihau maint y dudalen sgwrs.
- Gweler hefyd: Wicipedia:Sut i archifo tudalen sgwrs (en:Help:How to archive a talk page).
[golygu] B
- Biwrocrat (Bureaucrat)
- Mae biwrocrat yn weinyddwr sydd yn gallu rhoi pwerau gweinyddwr i ddefnyddiwr, newid enwau defnyddwyr, a galluogi cyfrifon bot.
- Gweler hefyd: en:Wikipedia:Administrators#Bureaucrat.
[golygu] C
- Y Caffi (Village Pump)
- Prif fforwm cymuned Wicipedia, lle cyhoeddir a thrafodir cynigion, newidiadau polisïau, problemau technegol a materion mewnol eraill o flaen cynulleidfa fwy na cheir ar dudalen sgwrs tudalen benodol.
- Gweler hefyd: Wicipedia:Y Caffi.
- Croen (Skin)
- Y thema golwg a osodir yn "fy newisiadau". Ar hyn o bryd, mae saith ar gael: MonoBook (y rhagosodyn), Chick, Hiraeth, Glas Cwlen, Simple, MySkin, a Safonol.
- Cystrawen wici (Wiki markup)
- Côd sy'n syml i HTML, ond yn symledig ac yn fwy cyfleus, e.e. '''cryf''' yn lle <b>cryf</b>. Cystrawen wici yw'r côd ffynhonnell a storir yn y gronfa ddata a ddangosir yn y bocs golygu.
- Gweler hefyd: Wicipedia:Sut i olygu tudalen.
[golygu] D
- Datblygwr (Developer)
- Mae datblygwr yn gallu newid meddalwedd Wicipedia a'r bas data yn uniongyrchol.
- Gweler hefyd m:Developers.
[golygu] E
- Eginyn (Stub)
- Erthygl sydd gan amlaf yn un baragraff byr neu'n llai, ac felly angen tyfu.
- Gweler hefyd: Wicipedia:Eginyn.
- Erthygl (Article)
- Cofnod gwyddoniadur. Mae pob erthygl yn dudalen, ond nid yw pob tudalen yn erthygl.
- Gweler hefyd: Wicipedia:Beth ydy erthygl.
[golygu] G
- Gwahaniaethu (Disambiguation)
- Y broses o ddatrys y broblem a godir pan mae gan erthygl dau bwnc neu fwy gyda'r un teitl naturiol.
- Gweler hefyd: Wicipedia:Gwahaniaethu a Thudalen wahaniaethu.
- Gweinyddwr (Admin, Administrator, Sysop)
- Defnyddiwr sydd gyda breintiau technegol ychwanegol er mwyn gwneud gwaith "cadwraethol" ar Wicipedia – sef dileu a diogelu tudalennau, a rhwystro defnyddwr.
- Gweler hefyd: Wicipedia:Gweinyddwyr.
- Gwybodlen (Infobox)
- Nodyn sydd yn dabl a fformatir gyda chystrawen wici, sydd i'w gweld mewn erthyglau gyda phwnc cyffredin, ac sy'n rhoi gwybodaeth sylfaenol am bwnc yr erthygl.
- Gweler hefyd: Cymorth:Gwybodlen a Wicipedia:Rhestr gwybodlenni.
[golygu] I
- Is-dudalen (Subpage)
- Tudalen sy'n tarddu o riant-dudalen, megis Tudalen/Dadleuon. Gellir ddim ond creu is-dudalennau mewn rhai parthau. Peidiwch a ddefnyddio is-dudalennau yn y prif barth.
- Gweler hefyd: Wicipedia:Is-dudalennau.
[golygu] N
- Nodyn (Template)
- Ffordd o gynnwys cynnwys un tudalen o fewn tudalen arall yn awtomatig (e.e. gwybodlenni, paneli llywio).
- Gweler hefyd: Wicipedia:Nodiadau.
[golygu] P
- Porth y Gymuned (Community Portal)
- Un o brif tudalennau Wicipedia. Gellir ei ddarganfod ar y panel llywio (ar yr ochr chwith yn y rhan fwyaf o grwyn), ac mae'n dudalen sy'n rhestru tasgau sydd angen eu gwneud, materion sydd angen eu datrys, ac adnoddau a gwybodaeth gyffredinol. Mae Porth y Gymuned yn ddefnyddiol ar gyfer dewis erthygl neu bwnc i weithio arno neu i ddarllen.
- Gweler hefyd: Wicipedia:Porth y Gymuned.
[golygu] Rh
- Rhestr gwylio (Watchlist)
- Grŵp o dudalennau a ddewisir gan y defnyddiwr, sy'n gallu clicio ar "fy rhestr gwylio" i weld newidiadau diweddaraf y tudalennau hynny.
- Gweler hefyd: Cymorth:Gwylio tudalennau.
[golygu] T
- Tudalen sgwrs (Talk page)
- Tudalen ar gyfer trafod y dudalen mae wedi cysylltu i. Mae gan bob tudalen ar Wicipedia (ar wahân i dudalennau yn y parth Arbennig, a thudalennau sgwrs eu hunain) tudalennau sgwrs.
- Gweler hefyd: Wicipedia:Tudalen sgwrs.
- Tudalen wahaniaethu (Disambiguation page)
- Tudalen sydd yn cynnwys ystyron gwahanol gair, ac sy'n cysylltu i'r tudalennau lle diffinir yr ystyron gwahanol. Os oes angen rhagor o wahaniaethu rhwng termau, enwir tudalennau gwahaniaethu yn "bwnc (gwahaniaethu)".
- Gweler hefyd: Gwahaniaethu.
[golygu] W
- Wiciadur (Wiktionary)
- Un o chwaer brosiectau Wicipedia sydd â'r amcan o greu geiriadur ar-lein o bob gair ym mhob iaith.
- Gweler hefyd: Wiciadur.
- Wicibywyd (Wikispecies)
- Un o chwaer brosiectau Wicipedia sydd â'r amcan o greu cyfeiriadur ar-lein o'r holl rywogaethau (wedi'i anelu yn bennaf at ddefnyddwyr gwyddonol yn hytrach na defnyddwyr cyffredinol).
- Gweler hefyd: Wicibywyd.
- Wicillyfrau (Wikibooks)
- Un o chwaer brosiectau Wicipedia sydd â'r amcan o greu casgliad ar-lein o werslyfrau a llawlyfrau.
- Gweler hefyd: Wicillyfrau.
- Wicitestun (Wikisource)
- Un o chwaer brosiectau Wicipedia sydd â'r amcan o greu casgliad ar-lein o destunau a dogfennau sydd yn y parth cyhoeddus.
- Gweler hefyd: Wicitestun.