Gerry Adams
Oddi ar Wicipedia
Gwleidydd Gwyddelig a llywydd plaid Sinn Féin yw Gerard Adams, Gwyddeleg:Gearóid Mac Ádhaimh (ganed 6 Hydref, 1948).
Ganed Gerry Adams yng ngorllewin Belffast, i deulu o genedlaetholwyr Gwyddelig. Wedi gadael yr ysgol, ymunodd â Sinn Féin a Fianna Éireann yn 1964. Dechreuodd y llywodraeth Brydeinig garcharu cenedlaetholwyr Gwyddelig heb achos llys yn Awst 1971, ac ym mis Mawrth 1972 carcharwyd Adams. Gollyngwyd ef yn rhydd ym mis Mehefin i gymryd rhan mewn trafodaethau cyfrinachol yn Llundain, ond ym mis Gorffennaf 1973 carcharwyd ef eto yn Long Kesh.
Yn 1983 etholwyd ef yn llywydd Sinn Féin, ac fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol dros y blaid, y cyntaf ers y 1950au. Yn unol â pholisi ei blaid, ni chymerodd ei sedd yn San Steffan. Ar 14 Mawrth 1984, clwyfwyd ef yn ddifrifol pan geisiodd rhai o aelodau'r UFF ei ladd. Collodd ei sedd yn San Steffan i Joe Hendron o'r SDLP yn etholiad 1992, ond enillodd hi yn ôl yn 1997.
Yn wahanol i arweinwyr blaenorol Sinn Féin, roedd Adams yn barod i roi blaenoriaeth i ymgyrchoedd gwleidyddol ac i drafod â phleidiau eraill. Ar ddechrau’r 1990au bu trafodaethau rhwng Gerry Adams a John Hume, arweinydd y Social Democratic and Labour Party (SDLP). Daeth arweinydd newydd yr UUP, David Trimble, a’i blaid ef i mewn i drafodaethau rhwng y pleidiau, ac ar 10 Ebrill 1998,arwyddwyd Cytundeb Belffast rhwng wyth plaid, ond heb gynnwys plaid Ian Paisley, y Democratic Unionist Party (DUP).
Yn etholiad Cynulliad Gogledd Iwerddon ym mis Tachwedd 2003, o'r pleidiau cenedlaethol, Sinn Féin a enillodd y nifer fwyaf o seddi, gyda’r SDLP yn colli cefnogaeth. Gwelwyd yr un patrwm yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig 2005. Ym mis Hydref, 2006, wedi trafodaethau yn St. Andrews yn yr Alban, cafwyd cytundeb rhwng y pleidiau, yn cynnwys y DUP. Ar 8 Mai 2007 daeth Ian Paisley, arweinydd y DUP, yn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon a Martin McGuinness o Sinn Féin yn Ddirprwy Brif Weinidog.
[golygu] Cyhoeddiadau
- Falls Memories, 1982
- The Politics of Irish Freedom, 1986
- A Pathway to Peace, 1988
- An Irish Voice
- Cage Eleven, 1990
- The Street and Other Stories, 1992
- Free Ireland: Towards a Lasting Peace, 1995
- Before the Dawn, 1996, Brandon Books, ISBN 0-434-00341-7
- Selected Writings
- Who Fears to Speak...?, 2001(Arg. gwreiddiol 1991), Beyond the Pale Publications, ISBN 1-90096-013-3
- An Irish Journal, 2001, Brandon Books, ISBN 0-86322-282-X
- Hope and History, 2003, Brandon Books, ISBN 0-86322-330-3
- A Farther Shore, 2005, Random House
- An Irish Eye, 2007, Brandon Books