Glenn Miller
Oddi ar Wicipedia

Blaenwr band, trefnydd, a thrombonydd jazz poblogaidd iawn oedd Glenn Miller (1 Mawrth, 1904 — 15 Rhagfyr, 1944 yn debyg), a fu'n blaenu un o'r bandiau dawns (big band) mwyaf poblogaidd y cyfnod swing. Arwyddiant ei gyfansoddiadau oedd clarinét yn chwarae alaw dros bedwar sacsoffon.
Ganwyd Alton Glenn Miller yn Clarinda, Iowa, a threuliodd ei blentyndod yng Ngholorado. Cyn dechrau band ei hunan roedd gan Miller gyrfa brysur fel trombonydd band dawns a stiwdio, a fu'n gweithio gyda'r Brodyr Dorsey, Ray Noble, ac eraill. Ffurfiodd Miller band swing ei hunan yn 1937, ond ni gwelon nhw lwyddiant nes iddynt cael eu chwarae'n aml ar radio Americanaidd yn 1939. Daeth nifer o ganeuon Miller yn boblogaidd y flwyddyn honno, gan gynnwys Little Brown Jug, Sunrise Serenade, Moonlight Serenade, a'i "hit" mwyaf, In the Mood.
Ym Medi 1942 gadawodd Miller ei fand ac ymrestrodd â Byddin yr Unol Daleithiau. Adlonnodd lluoedd Americanaidd a Phrydeinig yn ystod yr Ail Ryfel Byd gyda'i Army Air Force Band. Yn Rhagfyr 1944, bu farw Miller pan diflannodd ei awyren fychan dros y Môr Udd yn ystod tywydd gwael wrth hedfan i Baris.