Gorllewin Cymru
Oddi ar Wicipedia
Rhanbarth answyddogol Cymru sydd yn ne-orllewin y wlad yw Gorllewin Cymru, sy'n ffinio â Chanolbarth Cymru i'r gogledd, De Cymru i'r dwyrain, Môr Hafren i'r de a Môr Iwerddon i'r gorllewin. Mae'n cynnwys Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Phenrhyn Gŵyr, ac yr afonydd Penfro a Thawe.
Yn hanesyddol, mae Gorllewin Cymru yn cyfateb yn fras i diriogaeth Teyrnas Deheubarth heb Ceredigion. Heddiw, mae'n cynnwys siroedd Penfro, Caerfyrddin ac Abertawe.
Ond mae "Gorllewin Cymru" yn rhanbarth anelwig iawn mewn gwirionedd gyda'i diffiniad yn amrywio. Gellid ei gymryd yn llythrennol i olygu'r cyfan o orllewin Cymru, o Fôn i Benfro, a dyna'r rhanbarth a geir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r Undeb Ewropeaidd yn ei Strategaeth Cynllun Un ar gyfer "Gorllewin Cymru a'r Cymoedd", er enghraifft. Yn nhermau daearyddol pur, yr hyn a olygir gan "Gorllewin Cymru" gan amlaf yw de-orllewin Cymru yn hytrach na'r Gorllewin go iawn.
Rhanbarthau Cymru | ![]() |
---|---|
Canolbarth | De | Gogledd | Gorllewin |