Gruff Rhys
Oddi ar Wicipedia
Prif leisydd a gitarydd y band Super Furry Animals yw Gruff Rhys (ganwyd 18 Gorffennaf 1970). Cafodd ei eni yn Hwlffordd, ond symudodd y teulu i Rachub, ger Bethesda yn 1974. Mynychodd Gruff Ysgol Dyffryn Ogwen ym Methesda.
Mae gan Gruff steil unigryw o chwarae gitar, mae'n law chwith ond gan ei fod wedi dysgu chwarae ar gitar llaw dde ei frawd; mae'n dal i chwarae gitar gyda'r llaw chwith ond gyda'r tannau yn y drefn llaw dde, fel arfer mi fyddai pobl llaw chwith yn newid trefn y tannau i'w wneud yn haws i chwarae.
Ysgrifennodd ganeuon pan oedd yn ifanc iawn. Bu yn y band Emily a Ffa Coffi Pawb cyn ffurfio'r grŵp Super Furry Animals.
Ar 24 Ionawr 2005, rhyddhaodd Gruff ei albym unigol cyntaf, Yr Atal Genhedlaeth, mae'n albwm sydd yn gyfan gwbl yn yr iaith Gymraeg. Mae eisioes wedi rhyddhau ail albwm Candylion, sydd yn cynnwys caneuon yn y Gymraeg Saesneg a Sbaeneg, ar 8 Ionawr 2007.
[golygu] Disgograffi
[golygu] Albymau
- Yr Atal Genhedlaeth, 2005, (Placid Casual)
- Candylion, 2007, (Placid Casual)