Ysgol Dyffryn Ogwen
Oddi ar Wicipedia
Ysgol uwchradd dwy-ieithog Cymraeg a Saesneg ym Methesda, Gwynedd, ydy Ysgol Dyffryn Ogwen. Sefydlwyd yr ysgol yn 1951, ond roedd Ysgol Sir ar y safle cyn hynny. Agorwyd estyniad i'r ysgol gan yr Athro Idris Foster. "Bydded goleuni" yw arwyddair yr ysgol.
Roedd 437 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2006, 58 o'r rheiny yn y chweched dosbarth.[1][2] Daw 78% o'r disgyblion o gartefi lle bod Cymraeg yn brif iaith, gall 99% o'r disgyblion siarad Cymraeg i lefel iaith cyntaf.[1]
Roedd sôn cyn belled yn ôl a 2003 am gyfuno'r ysgol gyda Ysgol Tryfan gerllaw i greu ysgol ffederal.[3] Yn 2007, datganwyd cynlluniau Cyngor Sir Gwynedd i ailwampio'r system addysg yno gan gau a chyfuno nifer fawr o ysgolion cynradd.[4]
Ymysg ei chyn ddisgyblion mae:
- John Hardy - cyflwynydd radio [5]
- Aled Hughes - dyn tywydd S4C[6]
- Gareth William Jones - awdur
- John Ogwen - actor [7]
- Gruff Rhys o'r Super Furry Animals
[golygu] Ysgolion Cynradd yn Nhalgylch yr Ysgol
- Ysgol Bodfeurig
- Ysgol Penybryn
- Ysgol Llanllechid
- Ysgol Rhiwlas
- Ysgol Abercaseg (Babanod)
- Ysgol Llandygai
- Ysgol Tregarth