Gruffudd ap Rhys
Oddi ar Wicipedia
Roedd Gruffudd ap Rhys (bu farw 1137) yn dywysog rhan o deyrnas Deheubarth yn ne-orllewin Cymru.
Pan laddwyd tad Gruffudd, Rhys ap Tewdwr yn 1093, cymerodd y Normaniaid feddiant o'i deyrnas, a threuliodd Gruffudd ei ieuentid mewn alltudiaeth yn Iwerddon. Tua 1113 dychwelodd i Gymru ac wedi rhai blynyddoedd o grwydro o le i le, llwyddodd i gael digon o wŷr i'w ddilyn i fedru ymosod ar nifer o gestyll a threfi Normanaidd yn 1116. Cafodd gryn lwyddiant, ond methodd ymosodiad ar Aberystwyth a gwasgarodd byddin Gruffudd.
Yn ddiweddarach daeth Gruffudd i gytundeb a Harri I, brenin Lloegr a chaniatawyd iddo reoli rhan fechan o deyrnas ei dad, y Cantref Mawr. Cyn hir ymosodwyd arno gan yr arglwyddi Normanaidd o'i amgylch, a gorfodwyd ef i ffoi i Iwerddon eto am gyfnod yn 1127. Yn 1136 ymunodd Gruffudd ag Owain Gwynedd a'i frawd Cadwaladr, meibion Gruffydd ap Cynan o Wynedd, mewn ymgyrch yn erbyn y Normaniaid. Tra'r oedd Gruffudd oddi cartref, cododd ei wraig Gwenllian ferch Gruffudd fyddin ac ymosododd ar gastell Normanaidd Cydweli, ond gorchfygwyd hi a'i lladd.
Enillodd Gruffudd ei hun, gydag Owain a Chadwaladr, fuddugoliaeth ysgubol dros y Normaniaid yn Mrwydr Crug Mawr ger Aberteifi yr un flwyddyn. Yn 1137 cafodd Gruffudd fwy o lwyddiant yn Nyfed, ond bu farw yn fuan wedyn mewn amgylchiadau ansicr.
Yr oedd gan Gruffudd bedwar mab gan Gwenllian, Maredudd, Rhys, Morgan a Maelgwn. Yr oedd ganddo hefyd ddau fab hŷn o briodas flaenorol, Anarawd a Chadell, ac o leiaf ddwy ferch, Gwladus and Nest. Dilynwyd ef gan ei fab hynaf, Anarawd. Daeth tri arall o'i feibion, Cadell, Maredudd a Rhys (a ddaeth yn adnabyddus yn ddiweddarach fel Yr Arglwydd Rhys), i deyrnasu ar Ddeheubarth yn eu tro.
O'i flaen : Rhys ap Tewdwr |
Teyrnoedd Deheubarth Gruffudd ap Rhys |
Olynydd : Anarawd ap Gruffudd |