Guillermo Rawson
Oddi ar Wicipedia
Meddyg ac un o wleidydd mwyaf dylanwadol yr Ariannin yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd Guillermo Rawson (24 Mehefin 1821 - 20 Ionawr 1890). Trwy gytundeb a arwyddwyd ym 1862 rhododd ef dir i'r Cymry i godi'r Wladfa arno.
Ei rieni oedd Amán Rawson, meddyg oedd wedi dod o'r UDA i'r Ariannin, a María Jacinta Rojo, merch teulu cyfoethog o San Juan, y ddinas lle cafodd Guillermo Rawson ei eni. Ar ôl mynychu ysgol Jesuit San Juan, cafodd radd doctor o gyfadran feddygol Prifysgol Buenos Aires ym 1844. Sut bynnag, roedd e'n ymddiddori mewn gwleidyddiaeth a democratiaeth hefyd, ac, ar ôl gwrthwynebu Banavídez, llywodraethwr San Juan mewn ffaith, cafodd ei garcharu ym 1853. Serch hynny, daeth i fod yn aelod o Gyngres Paraná y flwyddyn nesaf ac yn llywodraeth Bartolomé Mitre fe'i benodwyn fel gweinidog materion mewnol yr Ariannin o 1862 ymlaen.
Nid ei unig ddiddordeb oedd gwleidyddiaeth. Gwelodd bwysicrwydd meddygaeth a hylendid hefyd. Ym 1876 aeth i Gyngres Philadelphia i gyflwyno ei waith dros hylendid Buenos Aires, y gwaith mwyaf cyflawn am y pwnc yn ei ddydd.
Bu raid iddo fynd i Baris am flwyddyn ym 1881 i gael triniaeth am afiechyd, ond daeth yn ôl i'r Ariannin wedyn. Er gwaetha'r driniaeth, gwaethygodd ei iechyd eto a bu rhaid iddo fynd i Baris unwaith eto ym 1885. Bu farw yno ym 1890.