Gwenno Pipette
Oddi ar Wicipedia
Cantores a chwaraewr allweddellau Gymreig ydy Gwenno Pipette (ganed Gwenno Mererid Saunders 23 Mai 1981), mae hi'n aelod o fand bop The Pipettes. Hi sydd fel arfer yn sefyll ganol llwyfan yn eu sioeau byw. Mae hi'n siaradwaig Cymraeg a Chernyweg rhugl.
Ganed Gwenno yng Nghaerdydd, yn ferch i'r ieithydd a bardd Cernyweg nodweddiadol, Tim Saunders, roedd Gwenno hefyd yn aelod o gast gynhyrchiadau Michael Flatley, Lord Of The Dance a Feet of Flames, tra roedd hi yn ei harddegau, a chwaraeodd y rhan arweiniol yng nghynyrchiad Las Vegas Lord Of The Dance. Yn 2001, cafodd ran yn y gyfres teledu Pobol y Cwm ar S4C, ac yn hwyrach cyflwynodd y rhaglen "Ydy Gwenno'n Gallu... ?".
Yn ystod y blynyddoed cyn ymaelodi â'r Pipettes, bu Gwenno yn gantores bop trydanol unigol, yn canu y rhan fwyaf drwy gyfrwng y Gymraeg a Chernyweg, gan ryddhau dwy EP unigol, Môr Hud [1], a ryddhawyd yn 2002, a Vodya [2] yn 2004.
Ymaelododd Gwenno â'r Pipettes ym mis Ebrill 2005 wedi i'r aelod ymffurfiol, Julia, adael. Mae hi'n nodweddiadol yn bennaf am ei llais arweiniol ar y sengl Pull Shapes a chytgan Your Kisses Are Wasted on Me. Yn ddiweddar, mae wedi postio gwaith unigol ar ei gwefan MySpace, a datganwyd ar wefan y Pipettes ei bod yn bwriadu rhyddhau albwm unigol yn hwyrach eleni.