Gwgon ap Meurig
Oddi ar Wicipedia
Gwgon ap Meurig oedd brenin olaf Teyrnas Ceredigion. Ychydig iawn o wybodaeth bendant sydd ar gael amdano.
Cyfeirir ato fel Guocaun map Mouric mewn dogfen Seisnig o ddiwedd yr Oesoedd Canol (Harvey Genealogies XXVI).
Priododd ei chwaer Angharad y brenin Rhodri Mawr o Wynedd.
Dywedir i Wgon farw trwy foddi yn 871 (Annales Cambriae).
Mae'n bosibl fod yr arwr traddodiadol Gwgon Gleddyfrudd i'w uniaethu â Gwgon ap Meurig, ond ymddengys yn fwy tebygol ei fod yn hynafiad iddo (os cymeriad hanesyddol ydyw mewn gwirionedd).