Hindi
Oddi ar Wicipedia
Prif iaith swyddogol India yw Hindi (Devanāgarī: हिन्दी neu हिंदी). (Mae Saesneg yn ail iaith swyddogol.) Mae'n aelod o'r gangen Indo-Iraneg o'r teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd.
Siaredir Hindi fel mamiaith gan 180 miliwn o bobl yng ngogledd a chanolbarth India, tua 40% o boblogaeth India. Mae tua 25% o boblogaeth India yn medru Hindi fel ail iaith. Mae siaradwyr i'w cael hefyd yn Nepal, Fiji, Mauritius, Lloegr, Trinidad a Tobago, Guyana, Suriname, a llawer o wledydd eraill. Y bumed iaith fwyaf yn y byd ydyw o ran nifer o siaradwyr.
Mae'n perthyn yn agos i Wrdw, a ddatblygodd allan ohoni gyda dylanwad yr iaith Berseg yn y cyfnod modern. Ond ysgrifennir Hindi gan amlaf gydag ysgrifen Devanāgarī, ac Wrdw gyda'r wyddor Arabeg.
[golygu] Llenyddiaeth
Mae llenyddiaeth gyfoethog yn Hindi, yn ymestyn yn ôl i'r 12fed ganrif, ac yn adeiladu ar lenyddiaeth Sanscrit. Yn y llenyddiaeth draddodiadol, mae dylanwadau crefyddol cryf, a cheir lawer o straeon o hud a lledrith a thylwyth teg. Er hynny, mae llenyddiaeth fodern, realaidd, yn ogystal. Mae Munshi Premchand (1880-1936) yn un o'r nofelyddion enwocaf yn yr iaith.
Erbyn heddiw mae diwydiant ffilmiau egnïol yn Hindi, y cyfeirir ati yn anffurfiol fel "Bollywood", a'i ganolfan ym Mumbai.