Huw Llywelyn Davies
Oddi ar Wicipedia
Darlledwr yw Huw Llywelyn Davies (ganed 19 Chwefror 1945). Yn fab i Eic Davies a oedd yn arloeswr wrth drafod chwaraeon yn Gymraeg ar y radio, fe anwyd Huw ym Merthyr Tudful. Aeth i Ysgol Gynradd Gwaun-cae-gurwen, Ysgol Ramadeg Pontardawe, a Choleg y Brifysgol Caerdydd. Bu'n athro ac yn bennaeth yr Adran Gymraeg yng Ngholeg Llanymddyfri o 1969 tan 1974. Ymunodd â HTV yn 1974 gan ymuno â'r BBC yn 1979. Daeth yn enwog fel sylwebydd rygbi yn Gymraeg a Saesneg ac hefyd y rhaglen deledu Dechrau Canu, Dechrau Canmol. Mae hefyd yn aml yn gyflwynydd teledu o'r Eisteddfod Genedlaethol.