Merthyr Tudful
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd Merthyr (gwahaniaethu).
Tref a bwrdeistrefol sirol yw Merthyr Tudful, ym Morgannwg, de Cymru. Mae ganddi boblogaeth o dua 55,000. Mae etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni yn ethol aelod i'r Cynulliad Cenedlaethol ac Merthyr Tudful a Rhymni i Senedd San Steffan yn Llundain. Mae'r etholaeth hefyd yn rhan o Ranbarth De Ddwyrain Cymru ar gyfer ethol aelodau rhanbarthol y Cynulliad.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Adeiladodd y Rhufeiniaid gaer yn yr ardal, ym Mhenydarren a chododd y Normaniaid gastell ym Morlais. Yn ôl traddodiad cysylltir Merthyr â sant Tudful. Daw'r enw o'r gair 'merthyr' yn ei ail ystyr, sef "eglwys er cof i sant neu ar ei fedd, neu fynwent sanctaidd".
Yn 1690 gwnaeth yr Anghydffurfwyr adeiladu gapel yng Nghwm-y-Glo, a chododd yr Undodwyr un yng Nghefn Coed yn 1747. Pan ddaeth y mewnlifiad o bobl yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ymuno â'r anghydffurfwyr a wnaeth y rhan fwyaf. Y meistri tir a'r diwydianwyr cyfoethog oedd yn perthyn i Eglwys Loegr.
Roedd yn ardal amaethyddol tan tua diwedd y ddeunawfed ganrif. Erbyn 1801 roedd y boblogaeth dros 7,000. Erbyn 1831 'roedd yn 30,000 a hi oedd y dref fwyaf yng Nghymru. Roedd y boblogaeth yn tyfu'n gynt yn Merthyr nag yn unrhyw dref arall yng Nghymru.
Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif roedd gwaith haearn yn bwysig iawn yng Nghymru ac roedd pedwar gwaith haearn pwysig yn Merthyr sef Gwaith Haearn Cyfarthfa, Gwaith Haearn Dowlais, Gwaith Haearn Penydarren a Gwaith Haearn Plymouth.
[golygu] Enwogion
- Glyn Jones, llenor.
- Dr. Joseph Parry, cerddor
[golygu] Ardaloedd
- Caedraw
- Cyfarthfa
- Galon Uchaf
- Georgetown
- Gellideg
- Y Gyrnos
- Heolgerrig
- Maerdy
- Pantysgallog
- Penydarren
- Penyard
- Pontmorlais
- Rhydycar
- Twyncarmel
- Twynyrodyn
- Ynysfach
[golygu] Eglwysi
- Capel Stryd Fawr y Bedyddwyr
- Eglwys Santes Tudful, Caedraw
- Eglwys Dewi Sant, Stryd Uchaf
- Eglwys Ffynnon Santes Tudful, Y Chwarel (The Quar yn Saesneg)
- Eglwys Babyddol y Santes Fair, Pontmorlais
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Merthyr Tudful ym 1881 a 1901. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Merthyr Tudful 1881
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Merthyr Tudful 1901
[golygu] Cysylltiadau allanol
Trefi a phentrefi Merthyr Tudful | |||
Aberfan | Abercanaid | Beddllwynog | Cefn Coed y Cymer | Dowlais | Pentrebach | Troedyrhiw | Merthyr Tudful | Mynwent y Crynwyr | Ynysowen
|