Huw Stephens
Oddi ar Wicipedia
Cyflwynwr radio ydy Huw Stephens yn bennaf, yn ymdrolli ym myd cerddoriaeth. Ganwyd yng Nghaerdydd yn 1981. Mae Huw yn siaradwr Cymraeg rhugl, ac yn cyflwyno rhaglen C2 ar BBC Radio Cymru, mae hefyd yn cyflwyno'r rhagled deledu Bandit ar S4C.
Dechreuodd Huw ar yr awyr yn 1999, pan oedd ond 17 oed, ar Radio 1 fel rhan o'u darlledu rhanbarthol newydd yng Nghymru. Cyflwynodd ar y cyd gyda Bethan Elfyn, daeth yn gyflwydydd ifengaf erioed Radio 1 yn 18 oed.
Yn 2005, dechreuodd Huw ddarlledu yn genedlaethol, wedi marwolaeth John Peel fel un o'i olynyddion yn elfen One Music Radio 1, bwriad hwn oedd i gadw ysbryd rhaglen John Peel yn fyw. Mae One Music wedi gorffen erbyn hyn ond mae Huw yn dal i ddarlledu yn hwyr yn y nôs ac yn cymryd lle Steve Lamacq a Zane Lowe pan mae nhw ar eu gwyliau. Mae hefyd yn cyflwyno 'podcast' wythnosol, rhad ac am ddim, Radio 1 sef "Huw Stephens Introducing...' (A.K.A. Best Of Unsigned)".
Sefydlodd Huw label recordio Boobytrap Records yn 2000 ynghyd â ffrind, ond daeth y label i ben yn 2007. Mae rwan yn ysgrifennu a rhedeg label Am.[1]
Mae gan Huw golofn wythnosol ym mhapur newydd y Western Mail. Yn ôl ei dad, Meic Stephens, "Pan oedd e'n ifanc iawn, ac yn dechrau ysgrifennu, roeddd e'n dueddol o ysgrifennu ar ddarnau o bapur ogwmpas y tŷ. Dw i'n cofio gweld nodyn un tro yn dweud, 'Ai opynd ddy dôr and ai dropt on ddy fflôr'!"[2]
Yn wahanol i beth gredai rhai, nid Meic Stephens y canwr ydy tad Huw, er eu bod yn rhanu'r un enw.[3]
[golygu] Dolenni Allanol
- (Saesneg) Bywgraffiad Huw ar wefan BBC
- (Saesneg) Tudalen "Bethan and Huw" ar wefan BBC
- (Saesneg) Safle MySpace Huw Stephens
- Safle MySpace Cymraeg Huw Stephens
- (Saesneg) Cyfweliad yng nghylchgrawn Kruger
[golygu] Ffynonellau
- ↑ (Saesneg) Safle MySpace Huw Stephens
- ↑ O'r sioeau hud i gerddoriaeth byd: Portread o Huw Stephens, Golwg, 18 Hydref 2007
- ↑ (Saesneg) The Playlist, with Huw Stephens Huw Stephens Western Mail 9 Mawrth 2007