C2
Oddi ar Wicipedia
Rhaglen bum awr o hyd ydy C2 a ddarlledir ar BBC Radio Cymru rhwng 8 y hwyr ac 1 y bore bob nos Lun i nos Wener ers y'i sefydlwyd yn 2001.
Bwriad C2 yw apelio at gynulleidfa iau na gweddill Radio Cymru trwy roi'r Flaenoriaeth i Gerddoriaeth.
Mae C2 hefyd yn darlledu Brwydr y Bandiau pob blwyddyn gyda chefnogaeth Cymdeithas yr Iaith.
Taflen Cynnwys |
Ail-lawnsiad Hydref 2007
Ar ddydd Llun 8 Hydref 2007, cafodd C2 ei drawsnewid gyda Magi Dodd yn cyryd drosodd y sioe 8 tan 10. Ymunodd cyn-gystadleuwr Big Brother, Glyn Wise Magi fel cyd-gyflwynydd dwy-waith yr wythnos. Symudodd rhagflaenydd Magi, Dafydd Du i raglen newydd hwyr yn darlledu rhwng 11 y nos tan 1 y bore bob noson o'r wythnos gyda sioe newydd amser cinio ar ddydd Sadwrn, (12:30 - 2:00 y prynhawn).
Mae Huw Stephens yn dal ar yr awyr ar ddydd Llun a dydd Mawrth am 10 y nos ond mae ei sioe nos Iau wedi dod i ben. Lisa Gwilym sy'n cyflwyno'r rhaglenni un awr ar ddydd Iau a dydd Gwener am 10 y nos, gyda sioe hirach prynhawun Sul (ond nid fel rhan o C2). Mae slot 10 y nos pob dydd Mercher wedi ei neilltuo ar gyfer cyfres nodwedd.
Cyd-darodd yr ail-lawnsiad gyda ymadewiad Stephen Edwards, Terwyn Davies a Kevin Davies. Gadawodd Jeni Lyn C2 ond mae'n dal i gyflwyno ar Radio Cymru, gan westeio rhaglen newydd hwyr y nos ar ddydd Sul rhwng 11 y nos ac 1 y bore.
Ail-lanswyd y wefan yn ogystal gyda blog newydd cyson gan y cyflwynwyr.
Cyflwynwyr
- Aled Haydn Jones (BB Aled) - Gohebydd y cyfryngau (Pob dydd Gwener gyda Magi Dodd)
- Dafydd Du - Cyflwynydd: Dydd Llun - Gwener (11 y nos - 1 y bore)
- Dylan Ebenezer - Gohebydd chwaraeon/Cyd-gyflwynydd (Pob dydd Iau gyda Magi Dodd)
- Huw Stephens - Cyflwynydd: Dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau (10 - 11 y nos)
- Glyn Wise - Cyd-gyflwynydd (Dwy-waith yr wythnos gyda Magi Dodd)
- Lisa Gwilym - Cyflwynydd: Dydd Iau & Gwener (10 - 11 y nos)
- Magi Dodd - Cyflwynydd: Dydd Llun - Gwener (8 - 10 y nos)
Tîm Cynhyrchu
Cynhyrchwyr: Gareth Iwan (Bangor), Huw Meredydd (Caerdydd), Iwan Standley (Caerdydd), Mair Roberts (Caerdydd), Llinos Haf (Bangor), Sian Alaw Jones (Caerdydd)
Ymchwilwyr: Robin Owain
Cynorthwywyr Darlledu: Angharad Morris (Bangor), Elen Roberts (Bangor), Sioned Clwyd (Caerdydd)