Hydroleg
Oddi ar Wicipedia
Gwyddorau daear | |
![]() |
|
Bioamrywiaeth |
Hydroleg yw'r astudiaeth wyddonol o leoliad a symudiad dŵr ar wyneb y Ddaear neu drosto. Mae hydroleg yn ymwneud yn bennaf â bwrw (glaw, eira, cenllusg), ageriad a thrydarthu, a llif ffrydiau dŵr o bob math. Gelwir y broses naturiol sy'n cyfuno'r elfennau hyn y 'cylch hydrolegol', sy'n symudiad cylchynnol o ddŵr o'r moroedd i'r atmosffer ac yn ei ôl.
Mae gan hydroleg lawer o ddefnydd ymarferol, e.e. i geisio rheoli gorlifadau afonydd ac i gyflenwi dŵr ar gyfer y cartref, gweithfeydd, a ffermydd, yn ogystal â chynlluniau trydan hydroelectrig.