Iago fab Sebedeus
Oddi ar Wicipedia

Darlun o Sant Iago gan Rembrandt.
Un o'r deuddeg Apostol oedd Iago fab Sebedeus neu Sant Iago (bu farw 44). Roedd yn fab i Sebedeus a Salome, ac yn frawd i Ioan. Dywedir ei fod ef a'r frawd yn bysgotwyr ar lan Môr Galilea pan alwyd hwy gan Iesu fel disgyblion.
Yn diweddarach, cofnodir yn Actau'r Apostolion i Herod Agrippa ddienyddio Iago a chleddyf. Yn ôl y traddodiad, aethpwyd a'i weddillion i'w claddu i Santiago de Compostela yn Galicia yng ngogledd-orllewin Sbaen. Daeth Iago yn nawdd-sant Sbaen, ac ystyrir Santiago de Compostela gan Gatholigion fel trydedd dinas sanctaidd, ar ôl Jeriwsalem a Rhufain. Mae'r ddinas wedi bod yn gyrchfan boblogaidd i bererinion o'r Canol Oesoedd ymlaen.