Indira Gandhi
Oddi ar Wicipedia
Prif Weinidog India oedd Indira Priyadarshini Gandhi (इन्दिरा प्रियदर्शिनी गान्धी) (19 Tachwedd 1917 - 31 Hydref 1984).
Cafodd ei geni yn Allahabad, Uttar Pradesh, yn ferch i Jawaharlal Nehru. Roedd yn brif weinidog India o 19 Ionawr 1966 hyd 24 Mawrth 1977 ac o 14 Ionawr 1980 hyd iddi gael ei lladd yn Hydref 1984 gan aelodau o'i gwarchodlu Sikh.
Ar ei marwolaeth cymerodd ei mab hynaf Rajiv Gandhi yr awennau. Heddiw mae Sonia Gandhi, gweddw Rajiv, yn arwain Plaid Congress ac yn brif weinidog India.