James Dean
Oddi ar Wicipedia
Actor ffilm Americanaidd enwog oedd James Byron Dean (8 Chwefror, 1931 - 30 Medi, 1955). Cafodd ei hyfforddiant yn yr Actors' Studio enwog yn Efrog Newydd. Roedd yn ffigwr cwlt yn ei oes ac mae'n un o'r eiconau pop mwyaf cyfarwydd. Fel yn achos Marilyn Monroe, eicon pop arall, bu farw James Dean yn drasig o ifanc, mewn damwain modur. Er iddo fod yn ffigwr mor ddylanwadol dim ond tair ffilm a wnaeth; rhyddheuwyd yr olaf, Giant, ar ôl ei farwolaeth.
[golygu] Ffilmiau
- East of Eden (1955)
- Rebel Without a Cause (1955)
- Giant (1956)