Jean-Baptiste Maunier
Oddi ar Wicipedia
Jean-Baptiste Maunier | |
---|---|
Geni | 22 Rhagfyr 1990 Brignoles, Ffrainc |
Cartref | Lyon, De Ffrainc |
Enwog am | Actio, canu: Les Choristes, Hellphone, L'Auberge Rouge, La lettre de Guy Môquet |
Addysg | Baccalauréat litteraire |
Rhieni | Thierry Maunier, Muriel Maunier |
Mae Jean-Baptiste Maunier (ganwyd ar 22 Rhagfyr 1990) yn actor a chantor Ffrengig ifanc, mwyaf enwog am ei rôl yn y ffilm Les Choristes. Mae'n byw yn Lyon, De Ffrainc, gyda'i deulu.
[golygu] Gyrfa
Ennillodd enwogrwydd am ei rôl yn y ffilm Les Choristes yn 2004. Chwaraeodd Pierre Morhange, tramgwyddwr gyda llais eithriadol yn yr ysgol breswyl i fechgyn drwg, Fond de L'Etang. Mae cerddoriaeth wreiddiol Les Choristes yn cynnwys llais Maunier gyda'r côr i blant, Les Petits Chanteurs de Saint-Marc. Cafodd Maunier ei ddewis oherwyd ei ddawn leisiol eithriadol angylaidd yn ogystal â'i bryd a'i wedd.
Yn 2005, canodd yn Concerto pour deux Voix (Concerto i ddwy lais), gyda Clémence Saint-Preux. Yn 2006, chwaraeodd löwr ifanc o'r enw Robert yn y gyfres deledu, Le Cri.
Yn y ffilm animeiddiedig Piccolo, Saxo et Compagnie, rhoddodd ei lais i gymeriad Saxo; offeryn egr sy'n caru byrfyfyrio a sydd yn helpu Piccolo ar antur wyllt.
Yn 2007, büodd yn chwarae'r prif rôl yn nwy ffilm lwyddianus: La lettre de Guy Môquet, ffilm hanesyddol lle chwaraeodd gomiwnydd ifanc o'r Ail Ryfel Byd, a Hellphone, ffilm ddoniol i blant hŷn lle chwaraeodd fachgen o'r enw Sid.
Ei ffilm ddiweddaraf yw L'Auberge Rouge a ddangoswyd yn sinemáu Ffrengig yn Rhagfyr 2007 lle mae Maunier yn chwarae Octave.
Er bod Jean-Baptiste heb roi'r gorau i ganu yn gyfan gwbl, mae'n amlwg bod ei yrfa gerddorol wedi ei gohirio am gyfnod er mwyn iddo ganolbwyntio ar ei actio. Mae ef o hyd yn canu gyda Les Enfoirés sef côr o sêr mwyaf Ffrainc sydd yn canu o bryd i'w gilydd.
[golygu] Ei Ffilmiau
- 2004 : "Les Choristes", ysgrifennwyd a chynhyrchwyd gan Christophe Barratier.
- 2006 : "Le cri", ffilm deledu Ffrengig gan Hervé Baslé, mewn 4 rhan.
- 2006 : "Piccolo, Saxo, et Compagnie.", Ffilm CGI animeiddiedig i blant. Maunier yn chwarae rôl Saxo.
- 2006 : "Le Grand Meaulnes", addasiad o'r nofel gan Alain-Fournier. Maunier yn chwarae rôl y storïwr, François Seurel.
- 2007 : "Hellphone", cynhyrchwyd gan James Huth. Rhyddhawyd ar Fawrth 28, 2007 yn Ffrainc.
- 2007 : "La lettre de Guy Môquet", Jean-Baptiste yn chwarae Guy Môquet. Darlledwyd yn Ffrainc yn Hydref 2007.
- 2007 : "L'Auberge Rouge", Jean-Baptiste fel Octave. Rhyddhawyd ar Ragfyr 5 2007 yn Ffrainc.
[golygu] Dolen Allanol
- Gwefan swyddogol [1]