Jean-Jacques Rousseau
Oddi ar Wicipedia
Athronydd ac awdur yn yr iaith Ffrangeg oedd Jean-Jacques Rousseau (28 Mehefin, 1712 - 2 Gorffennaf, 1778). Daeth yn ffrind i Diderot ac ymunodd â'r Gwyddoniadwyr. Credai fod natur y bod dynol yn berffaith ynddi ei hun ond ei bod wedi'i llygru gan gymdeithas amherffaith; amlygir hyn yn bennaf yn ei nofel ar addysg, Émile (1762). Cafodd syniadau gwleidyddol Rousseau ddylanwad sylweddol ar ei gyfoeswyr yn Ffrainc a gweddill Ewrop ac, yn ddiweddarach, ar arweinwyr a damcaniaethwyr y Chwyldro Ffrengig (er na chredai J.-J. ei hun mewn chwyldro). Fel llenor cafodd ei arddull cain a syniadaeth Ramantaidd ddylanwad ar lenorion fel Goethe, Shelley, Byron a Wordsworth. Ceir ei ysgrifeniadau mwyaf personol yn Les Confessions a Rêveries du promeneur solitaire, a gyhoedwyd ar ôl ei farwolaeth. Mewn cyferbyniad â Voltaire ac eraill o'r Rhesymegwyr, roedd Rousseau yn Gristion rhyddfrydol a gredai fod Natur yn allwedd i ddeall y Duwdod.
[golygu] Gwaith Rousseau
Yr argraffiad safonol o holl waith Rousseau yn Ffrangeg yw'r Œuvres complètes, 5 cyfrol, Paris, Gallimard, Bibliothèque de la Pléiade (1959-95).
- Projet concernant de nouveaux signes pour la musique (1742)
- Dissertation sur la musique moderne (1743)
- Discours sur les sciences et les arts (1750)
- Cyfrannodd Rousseau i'r Encyclopédie a olygwyd gan Diderot a d'Alembert. Cyfrannodd y rhan fwyaf o'r erthyglau ar gerddoriaeth ond ei gyfraniad pwysicaf oedd Économie politique ('Economeg wleidyddol', 1755, a adnabyddir heddiw dan y teitl Discours sur l'économie politique.
- Le Devin du village (1752). Opera.
- Narcisse ou l’amant de lui-même (1752). Drama.

- Discours sur l'origine et les fondements de l'inégalité parmi les hommes (1755)
- Examen de deux principes avancés par M. Rameau (rhwng 1754 a 1756 yn ôl pob tebyg)
- Lettre à d'Alembert sur les spectacles (1757)
- Jugement du Projet de paix perpétuelle de Monsieur l'Abbé de Saint-Pierre (1756)
- Lettres morales (1757-1758)
- Julie ou la Nouvelle Héloïse (1761)
- Du contrat social (1762)
- Émile ou De l'éducation (1762)
- Essai sur l'origine des langues (cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth)
- Projet de constitution pour la Corse (cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth, ysgrifenwyd yn 1765 efallai)
- Dictionnaire de musique (1755 ymlaen; cyhoeddwyd 1767)
- Les Confessions (cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth)
- Dialogues de Rousseau juge de Jean-Jacques (cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth)
- Rêveries du promeneur solitaire (cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth)