Jean-Pierre Rives
Oddi ar Wicipedia
Mae Jean-Pierre Rives (ganed 31 Rhagfyr 1952 yn Toulouse) yn gyn-chwaraewr Rygbi'r Undeb a enillodd 59 o gapiau i Ffrainc fel blaenasgellwr.
Chwaraeodd Rives rygbi i glybiau TOEC, Beaumont a Stade Toulousain, yna yn 1981 gadawodd Toulouse i ymuno a Racing Club de France.
Chwaraeodd i Ffrainc ar bob lefel: ysgolion, ieunctid, prifysgolion a lefel B cyn cyrraedd y tîm cenedlaethol llawn. Bu'n gapten Ffrainc mewn 34 gêm, record y byd ar y pryd, a chwaraeodd yn y tîm a gyflawnodd Y Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Pum Gwlad yn 1977 a 1981. Rives oedd y capten pan gurodd Ffrainc y Crysau Duon yn Seland Newydd am y tro cyntaf erioed. Etholwyd ef yn Chwaraewr y Flwyddyn yn Ffrainc yn 1977, 1979 a 1981.
Yr oedd yn ddylanwadol pan wnaeth Ffrainc gais llwyddiannus am fod yn lleoliad Cwpan y Byd yn 2007.