Jillian Evans
Oddi ar Wicipedia
Mae Jillian "Jill" Evans (ganed 8 Mai, 1959) yn Aelod Senedd Ewrop dros Gymru, yn cynrychioli Plaid Cymru. Mae hefyd yn gadeirydd CND Cymru.
Ganed hi yn Ystrad Rhondda yn y Rhondda a'i haddysgu yn Nghonypandy a Prifysgol Abertawe. Bu'n gweithio fel cynorthwydd ymchwilym Mholitecnic Cymry lle enillodd radd M.Phil. Bu'n gweithio dros Sefydliad y Merched yng Nghymru am chwe blynedd cyn dod yn drefnydd gros Gymru i CHILD - Rhwydwaith Cefnogi Anffrwythlondeb Cendelaethol.
Bu'n gadeirydd Plaid Cymru o 1994 hyd 1996, a daeth yn Aelod Seneddol Ewrop yn etholiad 1999, gan ddod yn ASE cyntaf y Blaid gydag Eurig Wyn.