Plaid Cymru
Oddi ar Wicipedia
Plaid Cymru - The Party of Wales | |
---|---|
![]() |
|
Arweinydd | Ieuan Wyn Jones |
Sefydlwyd | 5 Awst, 1925 |
Pencadlys | 18 Park Grove, Caerdydd, CF10 3BN |
Ideoleg Wleidyddol | Cenedlaetholdeb Cymreig, Democratiaeth sosialaidd |
Safbwynt Gwleidyddol | Canol-chwith |
Tadogaeth Ryngwladol | dim |
Tadogaeth Ewropeaidd | European Free Alliance |
Grŵp Senedd Ewrop | Greens-EFA |
Lliwiau | Melyn |
Gwefan | www.plaidcymru.org |
Gwelwch hefyd | Gwleidyddiaeth y DU Rhestr pleidiau gwleidyddol y DU |
Mae Plaid Cymru - The Party of Wales (hefyd Plaid) yn blaid wleidyddol sosialaidd a Chymreig sydd yn galw am hunan-lywodraeth i Gymru.
Yn draddodiadol y mae Plaid wedi bod gryfaf yn y Gymru Gymraeg yn y gorllewin a'r gogledd.
[golygu] Hanes Plaid Cymru
Gweler hefyd: Plaid Genedlaethol Cymru Yr oedd pobl fel Emrys ap Iwan a Michael D. Jones wedi galw am hunanlywodraeth i Gymru yn y 19eg Ganrif, ac roedd y Blaid Lafur yn frwd iawn dros hunanlywodraeth i Gymru tan 1918 ond fe bylodd y brwdfrydedd erbyn y dauddegau. O ganlyniad fe sefydlwyd "Y Blaid Genedlaethol", sef enw gwreiddiol Plaid Cymru, ym 1925.Rhai o'r sylfaenwyr oedd Saunders Lewis Lewis Valentine ac H. R. Jones.
Y prif amcanion oedd cael hunanlywodraeth yn null dominiwn i Gymru, amddiffyn y Gymraeg, a chael sedd i Gymru yng Nghynghrair y Cenedloedd.
- Yn y tridegau ymgyrchodd i gael Gwasanaeth Radio Cymraeg y B.B.C., a gafwyd yn 1935. Trefnwyd deiseb i gael achosion llys yn y GYmraeg
Yn 1945 daeth Gwynfor Evans yn arweinydd. Erbyn 1959 llwyddodd y Blaid i ymladd ugain o seddi a chael 77,571 o bleidleisiau yn yr Etholiad Cyffredinol.
Yn dilyn helynt boddi Cwm Tryweryn gan Gorfforaeth Lerpwl er bod pob aelod seneddol o Gymru yn erbyn daeth mwy o gefnogaeth i Blaid Cymru.
Enillodd ei sedd seneddol gyntaf mewn is-etholiad ar y 14 Gorffennaf 1966 pan enillodd Gwynfor Evans, llywydd y blaid ar y pryd. Methodd gadw y sedd yn etholiad 1970. Collodd o 3 pleidlais yn Etholiad Cyffredinol gwanwyn 1974 ond fe enillodd y sedd yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig, Hydref 1974. Collodd y sedd wedyn yn 1979.
Bu'r blaid yn agos iawn i ennill is-etholiadau seneddol yn Y Rhondda a Chaerfilli ddiwedd y 1960au, ac roedd yn rheoli Cyngor Merthyr am gyfnod.
Enillodd Dafydd Wigley Etholaeth Arfon a Dafydd Elis Thomas Etholaeth Meirionnydd yn etholiad gwanwyn 1974, ac yn eu tro daeth y ddau yn llywydd i'r blaid.
[golygu] Refferendwm Datganoli 1979
Daeth datganoli i frig yr agenda gwleidyddol ym Mhrydain yn y chwedegau, yn dilyn buddugoliaeth Gwynfor Evans yn is-etholiad Caerfyrddin yn 1966, a Winifred Ewing dros yr SNP yn Hamilton ym 1967 ac hefyd is-etholiadau Glasgow Pollock (1967), Rhondda Fawr (1967) a Caerffili (1968). O ganlyniad sefydlwyd Comisiwn Crowther a ddaeth yn Gomisiwn Kilbrandon ar ôl marwolaeth yr Arglwydd Crowther.
Cyflwynodd Plaid Cymru y dystiolaeth ar ffurf pump memorandwm byr: Cenedlaetholdeb Gwleidyddol (Gwynfor Evans), Cenedligrwydd Cymru (Chris Rees), Yr Achos Economaidd dros Ymreolaeth (Phil Williams), Cyfansoddiad Cymru hunan-lywodraethol {Dewi Watcyn Powell), a Perthynas Gyllidol Gwledydd Prydain (Dafydd Wigley).
Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig 1987 enillodd Ieuan Wyn Jones Ynys Môn i'r Blaid ac yna yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1992 enillwyd Etholaeth Sir Aberteifi a Gogledd Penfro gan Cynog Dafis.
Yn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999, enillodd y blaid dir enfawr, gan gipio etholaethau nad oedd wedi ennill erioed o'r blaen - Conwy, Llanelli, Y Rhondda ac Islwyn hyd yn oed. Roedd hefyd yn rheoli cynghorau lleol unedig Gwynedd, Caerffili a Rhondda Cynon Taf. Plaid Cymru oedd y brif wrthblaid yn nhymor cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda 17 sedd.
Collwyd Etholaeth Ynys Môn yn etholiad San Steffan 2001 ond fe enillwyd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr gan Adam Price.
[golygu] Dolenni allanol
Pleidiau gwleidyddol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru | ||||||||
|