Joanot Martorell
Oddi ar Wicipedia
Joanot Martorell (1413–1468), yn enedigol o Valencia, oedd awdur y nofel ganoloesol Tirant lo Blanch, a ysgrifennwyd yn Gatalaneg, ("iaith frodorol Valencia," "vulgar llengua valenciana", chwedl Martorell). Cafodd yr argraffiad cyntaf ei gyhoeddi yn ninas Valencia yn 1490 a chafwyd ail argraffiad yn Barcelona yn 1497.
Nofel yw Tirant lo Blanch am anturiaethau'r marchog Tirant yn yr Ymerodraeth Fysantaidd, sy'n adleisio hanes Catrawd Catalonia yn Ngroeg ac Asia Leiaf yn yr un cyfnod. Mae'r awdur Sbaeneg Miguel de Cervantes, mewn pennod am losgi llyfrau yn ei lyfr enwog Don Quixote, yn peri i arwr ei lyfr ddweud mai Tirant lo Blanch yw'r llyfr gorau am anturiaethau o'r math. Roedd Martorell ei hun yn ŵr a gredai mewn sifalri. Bu farw'n ifanc mewn canlyniad i gynllwyn yn llys Valencia, a'i gyfaill Marti Joan de Galba a orffennodd y nofel.
[golygu] Dolenni allanol
- Tirant lo blanc, by Joanot Martorell (Lletra, espai virtual de literatura)
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.