Barcelona
Oddi ar Wicipedia
Mae'r erthygl yma am ddinas Barcelona. Am y tîm peldroed, gweler FC Barcelona.
Dinas Barcelona (dyweder "Barselona") yw prifddinas cymuned ymreolaethol Catalonia a thalaith Barcelona yng ngogledd-ddwyrain Sbaen, Saif ar lan Môr y Canoldir, rhyw 120 km o'r ffin a Ffrainc.
Gyda phoblogaeth o 1,593,075, Barcelona yw'r ail ddinas yn Sbaen o ran maint, a'r ddegfed o ran maint yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae poblogaeth Ardal Ddinesig Barcelona yn 3,135,758.
Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau o bwysigrwydd rhyngwladol yn Barcelona, yn cynnwys Arddangosfeydd Rhyngwladol yn 1888 a 1929, y Chwaraeon Olympaidd yn 1992 a Fórum 2004 yn 2004.
[golygu] Hanes
Mae gweddillion o ddiwedd y cyfnod Neolithig wedi eu darganod, ond yr hanes cyntaf am Barcelona yw fel sefydliad Iberaidd. Cipiwyd y ddinas gan y cadfridog Carthaginaidd Hamilcar Barca, tad Hannibal. Yn ystod yr Ail Ryfel Pwnig cipiwyd y ddinas gan y Rhufeiniaid a'i henwi yn Julia Augusta Paterna Faventia Barcino yn y flwyddyn 218 C.C.
Yn y 5ed ganrif daeth yn brifddinas teyrnas y Visigothiaid yn Sbaen, ac yn yr 8fed ganrif daeth dan reolaeth Islamaidd wedi ei chipio gan Al-Hurr. Ail-gipiwyd y ddinas gan y Cristionogion yn 801, ond parhaodd ymosodiadau Islamaidd, a dinistriwyd llawer o'r ddinas yn 985 gan filwyr Almanzor. Daeth y ddinas yn llewyrchus iawn yn y 13eg ganrif, ond o'r 15fed ganrif bu dirywiad. Tua diwedd y 18fed ganrif dechreuodd diwydiant dyfu yma, a bu deffroad economaidd a diwylliannol yn y 19eg ganrif.
Yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen yr oedd y ddinas ar ochr y Gweriniaethwyr, ond yn y diwedd fe'i cipiwyd gan fyddin Franco yn 1939. Wedi marwolaeth Franco, bu datblygiadau economaidd a diwylliannol pellach yn y ddinas, yn enwedig o ganlyniad i gynnal y Chwaraeon Olympaidd yno yn 1992.
[golygu] Mannau o ddiddordeb
- Eglwys y Sagrada Familia, campwaith enwog ac anorffenedig Gaudi.
- Les Rambles (Las Ramblas yn Sbaeneg), rhwng canol y ddinas a'r porthladd, y brif ardal dwristaidd
- Y Camp Nou, stadiwm y tîm peldroed enwog FC Barcelona.
Mae dau Safle Treftadaeth y Byd ym Marcelona:
- Gweithiau Antoni Gaudí (Park Güell a Palau Güell, Casa Milá, Casa Batlló, casa Vicens a'r Sagrada Família).
- Y Palau de la Música Catalana a'r Hospital de Sant Pau.