John Morgan (esgob)
Oddi ar Wicipedia
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler John Morgan.
Roedd John Morgan (bu farw 1504) yn Esgob Tyddewi. Weithiau gelwir ef yn John Yong neu Young, i’w wahaniaethu oddi wrth ei frawd, oedd hefyd yn dwyn yr enw John Morgan.
Mae ansicrwydd ynghylch ei dras; efallai ei fod yn fab i Morgan ap Jenkin ac yn frawd i’r cyfreithiwr Trahaearn Morgan.
Bu ym Mhrifysgol Rhydychen, lle graddiodd yn y gyfraith. Roedd yn gefnogwr i Harri Tudur, ac efallai iddo fod mewn alltudiaeth gydag ef cyn 1485. Mae un fersiwn o fywgraffiad Syr Rhys ap Thomas yn awgrymu mai John Morgan oedd yn gyfrifol am ei berswadio i gefnogi cais Harri Tudur am yr orsedd.
Wedi i Harri ddod yn frenin ar ôl Brwydr Bosworth, dyrchafwyd John Morgan yn gyflym. Derbyniodd nifer o fywiolaethau yn Lloegr, a gwnaed ef yn yn feistr yn y Siawnsri. Yn 1499 daeth yn Archddiacon Caerfyrddin, ac yn 1496 yn Esgob Tyddewi. Rhoddodd y gorau i’w swyddi eraill i gyd pan benodwyd ef yn esgob. Bu farw ddiwedd Ebrill neu Mai 1504, a chladdwyd ef yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi.