Juan Carlos I, Brenin Sbaen
Oddi ar Wicipedia
Mae Juan Carlos I de Borbón (Ioan Siarl I) (ganwyd yn Rhufain, 5 Ionawr 1938) yn Frenin Sbaen. Cafodd ei ddatgan yn frenin ar y 22ain o fis Tachwedd, 1978 yn sgil marwolaeth Francisco Franco, yn dilyn Deddf Olyniaeth Pennaeth y Wladwriaeth (1947). Ar ôl hynny cafodd ei gydnabod fel Brenin a symbol undod cenedlaethol ac etifedd cyfreithiol i'r frenhinllin hanesyddol gan Gyfansoddiad Sbaen (1978), cadarnhawyd gan refferendwm ar y 6ed o fis Rhagfyr 1978.
Ganed fel Juan Carlos Alfonso Víctor María de Borbón y Borbón-Dos Sicilias, mae Juan Carlos I yn wyr i Alfonso XIII ac yn fab i Don Juan de Borbón, conde de Barcelona, a María de las Mercedes de Borbón y Orleans, Tywysoges y Ddwy Sisilia. Cafodd ei eni yn Rhufain. Yr Eidal yn ystod alltudiaeth y Teulu Brenhinol, alltudiaeth a ddechreuodd gyda sefydliad Ail Weriniaeth Sbaen ym 1931. Cafodd ei fedyddio yng nghapel Urdd Malta gan Monsignor Eugenio Pacelli (wedyn y Pab Pïws XII).
Mewn cyfarfod rhwng Franco a Juan de Borbón ar y 25ain o fis Awst, 1948, cytunwyd i anfon y tywysog i Sbaen i astudio. Yn ddeng mlwydd oed, cyrhaeddodd Juan Carlos dir Sbaen am y tro cyntaf.
Cafodd ei addysgu yn Academi Milwrol Zaragoza (1955-1957), yn Ysgol Milwrol y Llynges Marin, Pontevedra (1957-1958) yn Academi yr Awyrlu San Javier, (1958-1959), a graddiodd ym Madrid. Yn ystod gwyliau'r Pasg ym 1956 -pan oedd yn 18 oed- lladdodd Juan Carlos ei frawd iau, Alfonso, mewn damwain wrth iddynt chwarae gyda gwn.
ym 1947 cafodd ei gydnabod fel etifedd y goron gan Ddeddf Olyniaeth Pennaeth y Wladwriaeth ar y 26ain o fis Gorffennaf.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.