Kaourintin
Oddi ar Wicipedia
Sant o Lydaw a flodeuai yn y 5ed ganrif oedd Kaourintin (Lladin, Corentinus; Ffrangeg a weithiau yn Gymraeg, Corentin) (bu farw tua 460 OC). O dras Frythonaidd, fe'i coffeir yn Llydaw fel sant ac esgob cyntaf Kemper. Ei wylmabsant yw 12 Rhagfyr. Bu'n byw fel meudwy yn Plomodiern ac yn ogystal daeth yn esgob Porzay ar droad y 6ed ganrif. Fe'i ystyrir yn un o Saith Sant-sefydlydd Llydaw.
Cysegrir Eglwys Gadeiriol Kemper i Kaourintin. Ei arwyddlun yw pysgodyn. Cyfeiria hyn at y chwedl werin ei fod yn arfer bwyta pysgodyn gwyrthiol a oedd yn byw mewn pwll ger clas y sant; byddai Kaourintin yn bwydo ei hun unwaith bob bydd trwy fwyta darn o'r pysgodyn hwn, a fyddai wedyn yn tyfu'n gyfan eto.
Claddwyd y sant yn eglwys gadeiriol Kemper.
[golygu] Darllen pellach
- Joseph Chardronnet, Le livre d'or des saints de Bretagne (Rennes, 1977)
[golygu] Dolenni allanol
- (Ffrangeg) Saint Corentin
- (Ffrangeg) Saint Corentin, évêque de Quimper