Khair-ed-din Barbarossa
Oddi ar Wicipedia
- Am yr ymerawdwr a lysenwid "Barbarossa", gweler Ffrederic Barbarossa, Ymerawdwr Glân Rhufeinig.
Môr-leidr enwog o'r 16eg ganrif oedd Khair-ed-din Barbarossa neu Khair ed-Din (ad-Din) (tua 1487 - 1546). Cafodd y llysenw 'Barbarossa' (Eidaleg: 'Barf goch') oherwydd lliw ei farf. Ef oedd y mwyaf adnabyddus o fôr-ladron Barbari a ymosodant yn rheolaidd ar longau a threfi yn y Môr Canoldir a thu hwnt.
Ganed Barbarossa ym Mytilene, ar ynys Lesbos (yng Ngwlad Groeg heddiw ond ym meddiant Twrci o 1462 hyd 1912), yn y 1570au. Gyda'i frodyr troes at ysbeilio llongau fel un o'r corsairs Tyrcaidd.
Ar ôl i'w frawd Horuk gael ei ladd yn 1518 hwyliodd i'r gorllewin. Ymunodd yn ymgyrch swltan Twrci yn erbyn Portiwgal a Sbaen. Cipiodd Algiers yn 1529 a chafodd ei benodi'n gapten llynges y Homan yn 1533. Yn 1534 cipiodd Tunis hefyd. Roedd yn forwr penigamp. Uchafbwynt ei yrfa efallai oedd ennill fuddugoliaeth enwog yn erbyn llynges Siarl V o Ffrainc yn 1538 a roddodd reolaeth ar y Môr Canoldir dwyreiniol i Ymerodraeth yr Otomaniaid.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Bradford, Ernle, The sultan's admiral: the life of Barbarossa (Llundain, 1968)
- Wolf, John B., The Barbary Coast: Algeria under the Turks (Efrog Newydd, 1979). ISBN 0-393-01205-0