Cookie Policy Terms and Conditions Tunis - Wicipedia

Tunis

Oddi ar Wicipedia

Place de la Victoire, Tunis: mae'r adeiladau'n nodweddiadol o bensaernïaeth Ffrengig y Ville Nouvelle
Place de la Victoire, Tunis: mae'r adeiladau'n nodweddiadol o bensaernïaeth Ffrengig y Ville Nouvelle

Tunis (Arabeg: تونس, Tiŵ-nis) yw prifddinas a dinas fwyaf Tunisia. Fe'i lleolir ar lannau Llyn Tunis yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Mae Tunis Fwyaf yn cynnwys nifer o faerdrefi poblog ar lan Gwlff Tunis, gan gynnwys Carthage a Sidi Bou Saïd, ac ar y bryniau isel i'r dwyrain a'r de o'r ddinas ei hun. Rhennir y ddinas yn ddwy ran. Y medina yw'r hen ddinas gaerog a nodweddir gan strydoedd cul a rhai o'r enghreifftiau gorau o bensaernïaeth traddodiadol yn y wlad. O'i chwmpas ceir y Ville Nouvelle, y rhan newydd o'r ddinas a noddweddir gan strydoedd llydan, pensaernïaeth Ffrengig, a siopau a chaffis canoldirol. Mae'r gyferbyniaeth rhwng y ddwy Tunis hyn - yr Arabaidd a'r Ewropeaidd - yn rhan o swyn a chymeriad y ddinas. Mae tua 728,455 (2004) o bobl yn byw ynddi (amcangyfrifir poblogaeth o tua 1.5 neu hyd at 2 filiwn ar gyfer Tunis Fwyaf).

Taflen Cynnwys

[golygu] Hanes

Mae Tunis wedi bodoli ers cyfnod dinas Carthage a'r Ffeniciaid. Credir fod yr enw yn ffurf ar enw Tanit, prif dduwies y Carthageniaid. Ceir yr enw (Tynes) ar fapiau o'r 5ed ganrif CC. Ond lle digon di-nod oedd Tunis mewn cymhariaeth â Carthage ei hun. Ar ôl cwymp y ddinas enwog honno i'r Rhufeiniaid ceir bwlch yn hanes Tunis. Pan ddaeth yr Arabiaid i Tunisia a chipio Carthage o ddwylo'r Ymerodraeth Fysantaidd yn 695 penderfynodd Hassan bin Nouman adeiladau ar safle Tunis yn hytrach na Carthage. Mae sefydlu'r medina yn dyddio o gyfnod Hasan. Cloddiwyd camlas i'w gysylltu â Llyn Tunis i'r dwyrain. Yn 732 codwyd mosg ysblennydd Zitouna yng nghanol y medina.

Delwedd lloeren yn dangos Tunis a Llyn Tunis
Delwedd lloeren yn dangos Tunis a Llyn Tunis

Yn y nawfed ganrif symudodd y rheolwr Ffatimid Ibrahim ibn Ahmed II ei lys o Kairouan i Tunis a ddaeth yn brifddinas y wlad am gyfnod byr. Symudwyd y brifddinas i Mahdia ond adferwyd statws Tunis ar ôl i'r Almohadiaid gwncweru Gogledd Affrica yn 1160. Roedd y cyfnod dan reolaeth yr Haffsidiaid (1229 - 1574) yn oes aur i'r ddinas. Treblodd y boblogaeth a chodwyd nifer o fosgiau, medresau a souqs. Sefydlwyd prifysgol ym Mosg Zitouna a oedd ymhlith yr enwocaf yn y byd Islamaidd.

Dioddefodd y ddinas yn yr ymgiprys am rym rhwng rheolwyr Otomanaidd Tunisia a Sbaen pan ddinistiwyd rhannau o'r ddinas a diorseddwyd yr Haffsidiaid. Dan reolaeth Sinan Pasha, a gipiodd y ddinas yn 1574, dechreuodd Tunis flodeuo eto. Ymsefydlodd nifer o ffoaduriaid Islamaidd o Andalucia - y Morisgiaid - yno a daeth ton arall o ffoaduriaid o Iddewon o ardal Livorno yn Yr Eidal hefyd i osgoi erledigaeth grefyddol.

Syrthiodd Tunis i feddiant Ffrainc yn 1881. Yn ystod y saith ddegawd nesaf codwyd nifer o adeiladau ganddynt a chreuwyd y Ville Nouvelle ar batrwm grid rhwng y medina a Llyn Tunis. Erbyn heddiw y 'ddinas newydd' yw calon y brifddinas.

[golygu] Lleoliad

Mae'r ddinas yn gorwedd ar wddw o dir dyrchafedig rhwng llyn hallt Sebkhet Nejoumi i'r gorllewin a Llyn Tunis i'r dwyrain. O'r sgwâr deniadol wrth y fynedfa i'r medina, a elwir Place de la Victoire, mae stryd llydan hir Avenue Habib Bourguiba yn ymestyn am dros hanner milltir trwy ganol y Ville Nouvelle. Roedd y gamlas a gloddiwyd yn nyddiau Hassan bin Nouman yn rhedeg ar hyd safle'r stryd cyn i'r Ffrancod ei llenwi. Avenue Habid Bourguiba yw canol y ddinas. Ceir nifer o fanciau, caffis stryd canoldirol a gwestai yno. O'i phen dwyreiniol mae morglawd dros Lyn Tunis yn cludo ffordd a rheilffordd y TGM i La Goulette a Gwlff Tunis.

[golygu] Atyniadau a diwylliant

Mosg Zitouna, Tunis
Mosg Zitouna, Tunis

Y brif atyniad dwristaidd yn Tunis yw'r medina gaerog sy'n labyrinth o strydoedd cul, siopau bach o bob math, ardaloedd dosbarth gweithiol, medresau, souqs, a mosgiau; mae ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd. Fe'i rhennir yn ardaloedd a enwir fel rheol ar ôl sant, souq neu fosg. Yng ngogledd y ddinas newydd ceir Amgueddfa'r Bardo, un o'r lleoedd gorau yn y byd i weld mosaigs Rhufeinig. Mae' parciau yn cynnwys y Belvedere a'i sŵ yn y gogledd. Ar Avenue Habib Bourguiba mae Eglwys Gadeiriol St Vincent a St Paul yn adeilad Ffrengig newydd-Othig trawiadol. O flaen y gadeirlan ceir cerflun o'r hanesydd canoloesol arloesol Ibn Khaldoun. Ar y rhodfa hefyd ceir y Theatr Ddinesig a Place 7 Novembre a'i ffynnon. Ond ar y cyfan nid yw Tunis yn ddinas dwristaidd. Mae twristiaid paced yn aros yn y trefi glan môr yng nghanolbarth y wlad a'r de ac felly mae'r ddinas wedi cadw ei chymeriad brodorol a'i diwylliant unigryw sy'n ymdroi o gwmpas y caffis pafin niferus.

Yn y ddinas fwyaf, a elwir weithiau Tunis Fwyaf, mae lleoedd o ddiddordeb yn cynnwys safleoedd archaeolegol Carthage, porthladd a thref glan môr La Goulette, Sidi Bou Saïd a'i phensaernïaeth Andalwsaidd a La Marsa i'r gogledd, ar Gwlff Tunis a'r Môr Canoldir. I'r dwyrain, i gyfeiriad gorynys Cap Bon, mae Hammam Lif ar lan y gwlff yn boblogaidd gan ddinesyddion Tunis fel lle i ymdrochi ac ymlacio.

[golygu] Cludiant

Gwasanethir Tunis gan rwydwaith o gludiant cyhoeddus sydd ymhlith y gorau yn Affrica. Mae tramiau yn rhedeg i nifer o leoedd yn y ddinas ac ar ei gyrion. Mae Rheilffordd y TGM yn cysylltu Tunis a maerdref bell La Marsa, gan alw yn nhair gorsaf Carthage a lleoedd eraill ar ei ffordd. Ceir rheilffordd faerdrefol sy'n rhedeg o Tunis ar hyd glan ddeheuol Gwlff Tunis i Rades, Hammam Lif a threfi eraill. Mae nifer fawr o fysus a tacsis yn rhedeg yn y ddinas yn ogystal. O'r orsaf yng nghanol y ddinas mae trenau'n cysylltu Tunis â Beja a Jendouba yn y gogledd-orllewin a Hammamet, Sousse a Sfax yn y de. Gwasanaethir Tunis gan Maes Awyr Tunis-Carthage, prif faes awyr rhyngwladol y wlad.

[golygu] Gefeilldrefi

[golygu] Gweler hefyd

Static Wikipedia 2008 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2007 (no images)

Static Wikipedia 2006 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu