La Rioja (cymuned ymreolaethol)
Oddi ar Wicipedia
|
|||
Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg | ||
Prifddinas | Logroño | ||
Arwynebedd – Cyfanswm – % o Spaen |
Safle 16eg 5,045 km² 1.0% |
||
Poblogaeth – Cyfanswm – % o Spaen – Dwysedd |
Safle 17eg 301,084 0.7% 56.27/km² |
||
ISO 3166-2 | NA | ||
Arlywydd | Pedro Sanz Alonso (PP) | ||
Gobierno de La Rioja |
Un o gymunedau ymreolaethol Sbaen yw La Rioja. Mae'n un o'r lleiaf o'r cymunedau ymreolaethol. Y brifddinas yw Logroño, ac mae dinasoedd a threfi pwysig eraill yn cynnwys Calahorra, Arnedo, Alfaro, Haro, Santo Domingo de la Calzada a Nájera.
O tua 970 hyd tua 1005 roedd La Rioja yn ffurfio Teyrnas Viguera, yna daeth yn rhan o Deyrnas Pamplona. Bu llawer o ymladd yn yr ardal yma cyn i La Rioja ddod yn rhan o deyrnas Castillia yn derfynol yn 1179. Crewyd y dalaith dan yr enw Logroño yn 1822, a newidiwyd ei henw i La Rioja yn 1980. Daeth yn gymuned ymreolaethol yn 1982.
Mae'n ffinio ar Euskadi, Navarra, Aragón and Castillia-Leon. Mae Afon Ebro yn llifo trwy'r dalaith. Amaethyddol yw'r dalaith yn bennaf, ac mae'n arbennig o enwog am ei gwin, Rioja.
Cymunedau ymreolaethol Sbaen | |
---|---|
Cymunedau Ymreolaethol | Andalucía • Aragón • Asturias • Ynysoedd Balearig • Canarias • Cantabria • Castillia-La Mancha • Castilla y León • Catalonia • Comunidad Valenciana • Euskadi • Extremadura • Galicia • Comunidad de Madrid • Murcia • Navarra • La Rioja |
Dinasoedd ymreolaethol | Ceuta • Melilla |